Rhyfeloedd Indo-Tsieina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: gl:Guerras da Indochina, pl:Wojny indochińskie
newidiadau man using AWB
Llinell 3:
* '''[[Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina]]''' (a elwir yn '''Rhyfel Indo-Tsieina''' yn Ffrainc a'r '''Rhyfel Ffrengig''' yn Fietnam), a ddechreuodd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd a pharhaodd hyd at drechiad y Ffrancod ym 1954. Wedi ymgyrch hir o wrthsafiad, datganodd lluoedd y [[Viet Minh]] fuddugoliaeth wrth i luoedd Japaneaidd a [[Llywodraeth Vichy]] ildio yn y Gogledd tua diwedd yr Ail Ryfel Byd. Adenillodd Ffrainc reolaeth dros y diriogaeth a pharhaodd y Viet Minh i ymladd yn erbyn y Ffrancod gyda chymorth o Tsieina a'r [[Undeb Sofietaidd]], ac roeddent yn llwyddiannus wrth wthio'r gwladychwyr o'r wlad.
* '''[[Rhyfel Fietnam|Ail Ryfel Indo-Tsieina]]''' (a elwir yn '''Rhyfel Fietnam''' yn y Gorllewin a'r '''Rhyfel Americanaidd''' yn Fietnam), a gychwynnodd fel gwrthdaro rhwng llywodraeth De Fietnam (gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau) a'i gwrthwynebwyr comiwnyddol, y [[Viet Cong]] (ffrynt rhyddid yn y De) a [[Byddin Gogledd Fietnam]] (gyda chymorth Tsieina a'r Undeb Sofietaidd). Cychwynnodd yn hwyr y 1950au a pharhaodd hyd 1975. Bu gwrthdaro hefyd yng Nghambodia rhwng y llywodraeth (gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau) a'r [[Khmer Rouge]] comiwnyddol ('''[[Rhyfel Cartref Cambodia]]''', 1967–1975) ac yn Laos rhwng y llywodraeth, eto gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, a'r [[Pathet Lao]] comiwnyddol ('''[[Rhyfel Cartref Laos]]''', 1962–1975).
* '''[[Rhyfel Cambodia a Fietnam]]''', a ddilynodd Ail Ryfel Indo-Tsieina. Goresgynwyd Cambodia gan Fietnam a ddymchwelwyd llywodraeth y Khmer Rouge. Parhaodd y rhyfel o fis Mai 1975 hyd Ragfyr 1989.
* '''[[Rhyfel Tsieina a Fietnam|Trydydd Ryfel Indo-Tsieina]]''' (a elwir hefyd yn '''Rhyfel Tsieina a Fietnam'''), rhyfel byr o Chwefror-Mawrth 1979 rhwng [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam]]. Goresgynwyd Fietnam gan Tsieina fel cosb am ymyrru yng Nghambodia.