Gŵyl Mabsant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen Baledwyr
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant'''<ref name="Hugh Evans 1931">Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>) yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf|blwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]] er mai gŵyl [[pagan|baganaidd]] ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur [[Cwm Eithin]].
 
Yr oedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron [[cymdeithas]]ol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd [[llan]] yr eglwys leol fel arfer.
Llinell 11:
== Cofnod disgrifiadol o'r hen ŵyl ==
 
Yn ei lyfr ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' dywed yr Athro [[Syr John Rhys]] i un Mr William Jones o [[Llangollen|Langollen]] sôn am Ŵyl Fabsant [[Beddgelert]] fel hyn: ''Digwyddodd y gwyliau hyn yn union fel yr un rwy wedi ei weld yn 1869 yn [[Heidelberg]] pan roedd y trigolion lleol yn dathlu "kermess" neu "kirchmesse" sef un o'u seintiau. Gŵyl o ddawnsio ac yfed cwrw ydoedd. Yn aml, oherwydd od y gwyliau hyn mor boblogaidd roedd yn rhaid wrth ychwaneg o wlâu a gelwid y gwelyau hyn yn "gwely g'l'absant".'' <ref>Cwm Eithin gan name="Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.<"/ref>
 
Dywed Marie Trevelyan: ''"Mal Santau" oedd un o'r enwau arni ac arferid eu cynnal ar ddyddiau pwysig megis [[Dydd Gŵyl Dewi]]. Roedd yno orchestion megis [[mabolgampau]], [[dawnsio]], [[canu]] a llawer mwy. Deuai chwaraewyr [[ffidil]] a [[telyn|thelyn]] yno o bob cyfeiriad. Cynhaliwyd rhai ohonynt yn neuadd y dref neu'r pentref, ond fel arfer yn y dafarn leol neu [[ysgubor]].'' <ref>Glimpses of Welsh Life and Character gan Marie Trevelyan, Llundain, 1893</ref>
 
Yn ôl Robert Jones, [[Rhos Lan]]: ''Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul penodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant (un gair, sylwer) ac roedd hwnnw yn un o brif wyliau'r diafol; casglai ynghyd at eu cyfeillion liaws o ieuenctid gwamal o bell ac agos i wledda, meddwi, canu, dawnsio a phob gloddest arall. Parhâi'r cyfarfod hwn yn gyffredin o brynhawn Sadwrn hyd nos Fawrth.''<ref>Cwm Eithin gan name="Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.<"/ref>
 
== Disgrifiad ar gerdd (1859) ==
Llinell 24:
I lan, neu bentre,
 
I chwarae [[Tennis|tennis]],
 
A bowlio [[Ceulus]],
 
Actio [[Anterliwt|Anterliwtiau]]iau,
 
[[Dawns Morris|Morrus dawns]] a [[cardiau|chardiau]],
Llinell 63:
 
Bexio am y trecha.
 
 
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 72 ⟶ 70:
*J. E. Caerwyn-Williams (gol.), ''Llên a Llafar Môn'' (Llangefni, 1963)
*G. J. Williams, 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', yn ''Gwerin'' (cyf. 1, 1957)
 
 
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]