David Watkin Jones (Dafydd Morganwg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
Bardd a hanesydd Cymreig oedd '''David Watkin Jones''' (1832 – 1905), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol '''Dafydd Morganwg''' (''sic'' gyda un 'n'). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gwerslyfr poblogaidd ar brydyddiaeth Gymraeg, ''Yr Ysgol Farddol''.
 
Roedd yn frodor o dref [[Merthyr Tudful]] ym [[Morgannwg]], lle y'i ganed yn 1832. Fel nifer o'i gydfrodorion, cafodd waith fel glöwr yn y pyllau glo lleol ac yn nes ymlaen daeth yn oruchwyliwr dros gwmni masnach o Ffrainc. Ymgartrefodd yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] lle bu'n byw yn ei gartref Morganwg House am weddill ei oes. Bu farw yn 1905.<ref name="ReferenceA">Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.</ref>
 
Ysgrifenodd gyfrol ar hanes [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]] (1874), ond ei brif waith oedd ''Yr Ysgol Farddol'', a gyhoeddodd yn 1869.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.<name="ReferenceA"/ref> Bwriadwyd y llyfr i fod yn ganllaw safonol i ddeall a chyfansoddi barddoniaeth Gymraeg ar y [[mesurau caeth]]. Mae ar ffurf 'holi ac ateb' rhwng disgybl ('Ifor') ac athro ('Arthur'). Bu'n llyfr poglogaidd gan redeg i bedwar argraffiad yn oes yr awdur ei hun. Nid yw'n llyfr safonol erbyn heddiw, fodd bynnag. Un o'i ddiffygion yw'r ffaith fod yr awdur yn derbyn ffugiadau [[Iolo Morganwg]] ac yn rhoi pwyslais mawr ar "Ddosbarth Morgannwg" fel y'i ceir yn y gyfrol ''[[Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain]]'' gan Iolo. Er hynny, cymeradwyd y llyfr gan rai o feirdd amlycaf y 19eg ganrif, yn cynnwys [[Richard Davies (Mynyddog)|Mynyddog]] a [[Hwfa Môn]].<ref>''Yr Ysgol Farddol'' (4ydd argraffiad, 1904), tt. xiv-xvi.</ref>
 
==Llyfryddiaeth==