Thomas Jones, Dinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Y dyn a'r diwygiwr: newidiadau man using AWB
Llinell 2:
 
==Y dyn a'r diwygiwr==
[[Delwedd:Thomas_Jones_Merthyron_1813Thomas Jones Merthyron 1813.JPG|250px|bawd|Wynebddalen ''Hanes y Merthyron'' (1813) gan Thomas Jones]]
Ganed Thomas Jones ym Mhenucha, ger Caerwys, yn 1756. Yn ddyn ieuanc derbyniodd addysg glasurol yn [[Treffynnon|Nhreffynnon]] gyda'r bwriad o fynd yn offeiriad yn yr [[Yr Eglwys yng Nghymru|eglwys sefydliedig]]. Ond dylanwadwyd arno'n gynnar gan y Methodistiaid a daeth yn un ohonynt gan roi heibio unrhyw fwriad o gael ei ordeinio yn [[Eglwys Loegr]]. Roedd hynny cyn i'r Methodistiaid ddechrau ordineiddio ac felly arosodd yn lleygwr. Dechreuodd bregethu yn [[1773]]. Yn [[1784]] cyfarfu â [[Thomas Charles]] o'r Bala. Cafodd ddylanwad cryf ar Charles a chyfranodd at loywi ei iaith. Llafuriodd gyda'r Methodistiaid fel cynghorwr yn [[Rhuthin]], [[Dinbych]] a'r [[Yr Wyddgrug|Wyddgrug]]. Roedd yn un o'r cynharaf o'r Methodistiaid i gael eu neilltuo i weini'r Ordinhadau yn [[1811]] ac o hynny hyd ddiwedd ei oes llafuriodd i adeiladu'r eglwys Fethodistaidd ar seiliau cadarn. Yn ddiwinyddol gorweddai rhwng eithafion [[Arminiaeth]] ac [[Uchel Galfiniaeth]] gwŷr fel [[John Elias]]. Bu'n briod dair gwaith.