Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Category is english - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
__NOTOC__
[[Delwedd:Islwyn_Ffowc_ElisIslwyn Ffowc Elis.jpg|thumb|200px|Islwyn Ffowc Elis (Llais Llyfrau 1980–1982)]]
Nofelydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Islwyn Ffowc Elis''' ([[17 Tachwedd]] [[1924]] – [[22 Ionawr]] [[2004]]) yn bennaf, ond roedd hefyd yn fardd, yn llenor, yn weinidog yr efengyl, yn ddarlledwr, yn swyddog ac yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, yn ddarlithydd, ac yn athro Cymraeg ail iaith. Derbyniodd ddisgrifiad ohono ef ei hunan fel ‘cyfathrebwr’ mewn cyfweliad teledu ar ‘Rhaglen Nia’.<ref>Llwyd t. 3</ref>
 
Llinell 12:
Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r [[BBC]].<ref>Llwyd t 57</ref> Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf [[S4C]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3128600/3128691.stm 'Talu teyrnged i Islwyn Ffowc'], gwefan y BBC, adalwyd 31 Mai 2008</ref>
 
Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr ugeinfed ganrif wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, ''Cysgod y Cryman'', llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg.<ref name="Stephens">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' Gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru 1986)</ref> <ref name="BBC">[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/enwogion/llen/pages/islwyn_ffowc_elis.shtml 'Islwyn Ffowc Elis', gwefan y BBC (adalwyd 31 Mai 2008)]</ref> Mae’r ffaith mai ''Cysgod y Cryman'' yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. ''Cysgod y Cryman'' enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn [[1999]] ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]].<ref>Llwyd t. 123</ref> Dewiswyd ''Cysgod y Cryman'' hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn [[2007]] mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.
 
Yr oedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig ''Y Gromlech yn yr Haidd'' ac ''Eira Mawr'' a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng [[1971]] a [[1975]].<ref>Llwyd t.name="Stephens" 90</ref> <ref name="StephensBBC" /></ref>Llwyd <reft. name="BBC">90</ref> Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau [[radio]] a [[teledu|theledu]], i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd ''Rhai yn Fugeiliaid'' (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu.<ref>Llwyd tt 93, 105</ref> Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis ''Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar'' (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis ''Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd'' (1956).
 
Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]]. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym [[1962]] a [[1964]]. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg [[Is-etholiad Caerfyrddin, 1966]]. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin.<ref>Llwyd tt. 72–85</ref>
Llinell 20:
Yn ogystal â bod ei lenyddiaeth yn ysbrydoli eraill i fynd ati i lenydda bu hefyd yn hybu llenorion ifainc drwy ei waith fel athro. Bu’n athro ar gyrsiau ar gyfer darpar-awduron. Bu’n Ddarlithydd ac yna’n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng [[Coleg y Drindod, Caerfyrddin|Ngholeg y Drindod]], [[Caerfyrddin]] ([[1963]]–[[1968]]) ac eto yng [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Ngholeg Prifysgol Dewi Sant]], [[Llanbedr Pont Steffan]] ([[1975]]–[[1990]]), lle bu hefyd yn Ddarllenydd er [[1984]]. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfieithu a chynhyrchu i’r [[Cyngor Llyfrau Cymru|Cyngor Llyfrau Cymraeg]] o [[1968]]–[[1971]]. Cyfrannodd hefyd at y gwaith o ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Bu’n cynnal cyrsiau Cymraeg fel ail iaith yng Ngholeg Bangor o [[1959]]–[[1963]]. Hefyd yn yr un cyfnod bu’n paratoi deunydd cyrsiau ar gyfer dysgwyr, ar gyfer y radio ac ar gyfer [[Coleg Harlech]] a’r National Extension College.<ref>Llwyd t. 68</ref>
 
[[Delwedd:Cadair_Islwyn_Ffowc_ElisCadair Islwyn Ffowc Elis.jpg|thumb|200px|Cadair Islwyn Ffowc Elis yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru]]
 
"Y gŵr a lusgodd y nofel Gymraeg i'r ugeinfed ganrif" oedd y disgrifiad ohono yn ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.
Llinell 28:
==Prif weithiau==
===Awdur===
*''[[Cyn Oeri'r Gwaed]]'' (1952, Gwasg Aberystwyth) - ysgrifau
*''[[Cysgod y Cryman]]'' (1953, Gwasg Aberystwyth) - nofel
*''Ffenestri Tua'r Gwyll'' {(1955, Gwasg Aberystwyth) - nofel
*''[[Yn Ôl i Leifior]]'' (1956, Gwasg Aberystwyth) - nofel ddilyniant i ''Cysgod y Cryman''
*''[[Wythnos Yng Nghymru Fydd]]'' (1957, Plaid Cymru) - nofel
*''Blas y Cynfyd'' (1958, Gwasg Aberystwyth)
*''Tabyrddau'r Tabongo'' (1961, Gwasg Aberystwyth) - nofel dychan
*''Cysgod y Cwmwl'' - (1962)