Madog ap Selyf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 4:
 
Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y [[13eg ganrif]]. Un ohonynt yw trosiad [[Cymraeg]] o'r ''Turpini Historia'', sy'n adrodd rhan o hanes [[Siarlymaen]], dan y teitl ''[[Cronicl Turpin]]''. Mae'r testun i'w cael yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]]. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:
:''A'r llyuyr hwnn a ymchoeles'' (cyfieithodd) ''Madawc ap Selyf o Ladin yg Kymraeg, o addolwyn a deisyf Grufud vab Maredud ab Owein ab Grufud ab Rys''.
 
Ar ofyniad [[Gruffudd ap Maredudd ab Owain]], un o ddisgynyddion [[yr Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]], y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd ''[[Transitus Mariae]]'' yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.