Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 3 beit ,  6 blynedd yn ôl
newidiadau man using AWB
;Cleddau Wen
 
Ceir dwy ran i '''afon Cleddau Wen''' (ffurf amgen: ''Cleddy Wen''). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4  km i'r de-ddwyrain o [[Abergwaun]]. Llifa tua'r de-orllewin heibio [[Scleddau]]. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy [[Cas-blaidd|Gas-blaidd]] i [[Hwlffordd]], lle ceir effaith y llanw.
 
;Cleddau Ddu
Tardda '''afon Cleddau Ddu''' (ffurf amgen: ''Cleddy Ddu'') ar lethrau [[Mynydd Preselau]] ym Mlaencleddau ym mhlwyf [[Mynachlog-ddu]], a llifa tua'r de-orllewin heibio [[Llawhaden]]. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
 
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol gwych; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.
 
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Cleddau]]
345,787

golygiad