Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Y Gymraeg: newidiadau man using AWB
Llinell 13:
* '''Bu cwymp (neu "leihad") o 9%''' yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.8% i 19.0%, sef '''1.8 pwynt canran'''). Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr. Mae'r ffigurau'n wahanol oherwydd twf ym mhoblogaeth Cymru. Bu cynnydd hefyd o ddau bwynt canran yn nifer y trigolion a anwyd y tu allan i'r wlad.
 
* '''Yn y De Orllewin''' y gwelwyd y '''cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr''': yn [[Sir Gaefyrddin|Sir Gâr]], [[Ceredigion]], [[Castell-Nedd Port Talbot]] ac [[Abertawe]]. Roedd [[Cyfrifiad 2001]] wedi dangos canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn a oedd dros 65 oed, felly gellir dadlau fod rhan o'r cwymp presennol yn deillio o ostyngiad hanner canrif yn ôl yn nghanran y plant a fagwyd yn siarad Cymraeg.
 
* '''Yn y De Ddwyrain''', bu i gyfran y siaradwyr Cymraeg gwympo'n sylweddol ym [[Blaenau Gwent|Mlaenau Gwent]], [[Torfaen]] a [[Merthyr Tudful]]. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y siaradwyr Cymraeg yng [[Caerffili|Nghaerffili]] a [[Sir Fynwy]] rhyw fymryn. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn yn blant ysgol, ac roedd y niferoedd yn cynnwys llawer o blant nad oedd â rhiant a oedd yn medru Cymraeg ac nad oedd ychwaith yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Gan na fu newid chwyldroadol yn nulliau dysgu Cymraeg rhwng 2001 a 2011, mae yna le i gredu fod y cwymp yn deillio o '''newid yn y ffordd mae rhieni yn nodi sgiliau ail iaith eu plant''' yn y Gymraeg ar ffurflen y Cyfrifiad, yn hytrach na newid yn arfer iaith y boblogaeth.