Tiberius Sempronius Gracchus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: simple:Tiberius Gracchus
newidiadau man using AWB
Llinell 8:
Roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain yn y cyfnod yma. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu ''[[latifundia]]'', ffernydd mawer a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.
 
Yn [[133 CC]] etholwyd Tiberius yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw ''Lex Sempronia agraria''. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 ''jugera'' (tua 310 acer, 1.3  km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr.
 
Golygai hyn y byddai llawer o bobl gyfoethocaf Rhufain yn colli tiroedd helaeth, a bu gwrthwynebiad ffyrnig ganddynt. Gan na chytunai'r senedd i'r mesur, aeth Tiberius at y bobl yn y ''[[Concilium Plebis]]'', lle roedd cefnogaeth iddo. Perswadiodd y seneddwyr dribwn arall, [[Marcus Octavius]], i geisio atal y mesur, ond taflodd Tiberius ef o'r cyfarfod, a bleidleisodd wedyn i'w ddiswyddo fel tribwn.