Via Appia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: et:Appiuse tee
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Map of Roman roads in Italy.png|thumb|300px|Y ''via Appia'' (mewn coch)]]
 
[[Ffordd Rufeinig]] yn cysylltu dinas [[Rhufain]] a [[Brindisi (dinas)|Brindisium]] (Brindisi heddiw}) yn [[Apulia]] yn ne-ddwyrain [[yr Eidal]] yw'r '''Via Appia'''. Gyda'r ''[[Via Latina]]'', y ''[[Via Flaminia]]'' a'r ''[[Via Salaria]]'', roedd yn un o'r ffyrdd pwysicaf oedd yn cysylltu'r brifddinas a'r gweddill o'r ymerodraeth.
 
Dechreuwyd adeiladu'r Via Appia yn [[312 CC]] gan [[Appius Claudius Caecus]], a chafodd ei henwi ar ei ôl ef. Yn wreiddiol, roedd y ffordd o Rufain i [[Capua]], ond yn ddiweddarach ymestynnwyd hi i Brindisium.
Llinell 7:
Gelwid y ffordd yn ''regina viarum'' (brenhines y ffyrdd) oherwydd ei phwysigrwydd. Mae'r ffordd yn dal i'w gweld yn Rhufain, lle gelwir hi y Via Appia Antica, yn arwain trwy'r ''Parco Appia Antica'' ac allan o'r [[Porta San Sebastiano]], gynt y ''Porta Appia''. Yn [[71 CC]], wedi gorchfygu byddin [[Spartacus]], croeshoeliodd [[Marcus Licinius Crassus]] 6,000 o garcharorion ar hyd y Via Appia. Yn rhywle ar y ffordd yma tu allan i Rufain, yn ôl traddodiad, y cyfarfu'r Apostol [[Pedr]], oedd yn ffoi o'r ddinas, a [[Iesu Grist]]. Holodd Pedr, ''Domine Quo Vadis?'' ("Arglwydd, i ble rwyt ti'n mynd?"), a chafodd yr ateb "I Rufain, i'm croesheolio yn dy le di". Dychwelodd Pedr i Rufain, lle croeshoeliwyd ef. Gerllaw mae [[Catacombau Sant Callixtus]].
 
Mae'r rhan o'r ffordd sydd wedi ei chadw orau tua 2.1  km tu allan i fur y ddinas.
 
[[Categori:Ffyrdd Rhufeinig|Appia]]