Yr Ymerodraeth Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: rm:Imperi roman
newidiadau man using AWB
Llinell 2:
'''Yr Ymerodraeth Rufeinig''' ({{Iaith-la|Imperium Romanum}}) yw'r term a ddefnyddir am y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd [[y Weriniaeth Rufeinig]] ac a barhaodd hyd y [[5ed ganrif]] OC yn y gorllewin, ac fel [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]] hyd [[1453]] yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo [[Senedd Rhufain]], llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerawdwyr, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio [[Iŵl Cesar]] fel ''dictator'' am oes yn [[44 CC]], buddugoliaeth etifedd Cesar, [[Augustus|Octavianus]] ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]] yn [[31 CC]], a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus ([[16 Ionawr]], [[27 CC]]).
 
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o [[Sbaen]] yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn [[Carthago]], a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad [[Trajan]] tua [[177]]. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000  km² (2,300,000 milltir sgwâr) o dir.
 
Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau'r ymerawdwr [[Diocletian]]. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn [[476]] pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, [[Romulus Augustus]]. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaernïaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanwad sy'n parhau hyd heddiw.
Llinell 23:
Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y ''Pax Romana'' ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn [[69]], parhaodd hwn am dros ddwy ganrif. Roedd hefyd yn gyfnod nodedig i lenyddiaeth, gyda llenorion fel [[Fyrsil]] ac [[Ofydd]] yn ysgrifennu. Bu Augustus farw ar [[19 Awst]], [[14]] OC, a dilynwyd ef gan [[Tiberius]], mab ei wraig Livia o briodas flaenorol.
 
[[Delwedd:Tiberius_palermoTiberius palermo.jpg|thumb|de|200px|Tiberius Caesar Augustus, ail ymerawdwr Rhufain]]
 
Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffin yn [[Germania]] a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn [[27]] OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys [[Capri]], ar yr arfordir gerllaw [[Napoli]]. Daeth pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], [[Lucius Aelius Seianus]], yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hun gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn [[31]]. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gwŷr amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.
Llinell 53:
Yn [[113]] dechreuodd rhyfel yn erbyn y [[Parthia]]id. Cipiodd [[Ctesiphon]], prifddinas Parthia, yn [[115]], ac ymgorfforwyd [[Armenia Inferior|Armenia]], [[Asyria]] a [[Mesopotamia]] yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ôl o'r brwydro yma, yn [[Selinus]], gerllaw'r [[Môr Du]], ar yr [[8 Awst]] [[117]]. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd [[Trajan]] [[Hadrian]] fel ei olynydd.
 
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|ymerodraeth]] a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn [[Dacia]]. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel [[Mur Hadrian]] ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]]. Ef hefyd a adeiladodd y [[Pantheon]] yn [[Rhufain]].
 
[[Delwedd:Roman Empire Trajan 117AD.png|thumb|de|250px|Yr ymerodraeth Rufeinig ar ei heithaf yn [[117]], ar ddiwedd teyrnasiad Trajan]]
Llinell 137:
=== Gweithiau diweddar ===
 
* [[Michael Grant]] ''The History of Rome'' (Faber and Faber, 2002), ISBN 0-571-11461-X
* [[Peter Heather]] ''The Fall of the Roman Empire: A New History of Rome and the Barbarians'', [[2005]], ISBN 0-330-49136-9
* [[A.H.M. Jones]], ''The Later Roman Empire, 284–602'', [[1964]], ISBN 0-8018-3285-3
Llinell 143:
 
{{Rhufain hynafol}}
 
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig| ]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|ca}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|ka}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|lv}}
 
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig| ]]
 
{{Link FA|fi}}
{{Link FA|no}}
{{Link FA|pt}}
{{Link FA|zh}}
 
[[af:Romeinse Ryk]]
[[als:Römisches Reich]]