Camlas Corinth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: la:Canalis Corinthius
newidiadau man using AWB
Llinell 2:
[[Camlas]] ddofn ar [[Isthmws Corinth]] yng nghanolbarth [[Gwlad Groeg]] yw '''Camlas Corinth'''. Mae'n cysylltu [[Gwlff Saronica]] i'r de a [[Gwlff Corinth]] i'r gogledd ac yn gwahanu'r [[Peloponnesos]] oddi wrth [[Attica]]. Fe'i henwir ar ôl dinas [[Corinth]], sy'n sefyll yn agos iddi.
 
Adeiladwyd y gamlas, sy'n 6.3  km o hyd, rhwng [[1881]] ac [[1893]]. Gyda lled o ddim ond 21m mae'n rhy gul i longau cargo modern ond mae llongau twristaidd yn ei defnyddio'n aml; mae tua 11,000 o longau'n mynd trwyddi bob blwyddyn.
 
Roedd yr [[Groeg yr Henfyd|hen Roegiaid]] yn arfer llusgo [[llong]]au dros yr isthmws. Meddylwyd am greu camlas mor gynnar ag oes [[Periander]]. Dan yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] gwnaethpwyd arolwg o'r isthmws i'r perwyl hwnnw ar orchymyn [[Caligula]] ac aeth [[Nero]] mor bell ag i ddechrau ar y gwaith yn [[67]], gan ddefnyddio 6000 o garcharorion [[Iddewon|Iddewig]] a anfonwyd gan [[Vespasian]] o [[Judaea]]. Gorfu iddo adael y gwaith pan dorrodd allan gwrthryfel [[Vindex]] yng [[Gâl|Ngâl]].