Helvetii: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Helveziar |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 4:
Ceir manylion amdanynt gan [[Iŵl Cesar]] yn ei ''[[Commentarii de Bello Gallico]]''. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, [[Orgetorix]], wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr [[Alpau]] i orllewin [[Gâl]]. Gadawodd yr Helvetii eu cartrefi yn [[58 CC]]. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr [[Allobroges]], roedd Cesar wedi malurio'r bont yn [[Genefa]] i'w hatal rhag croesi. Gyrrodd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd yr Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r [[Sequani]], ac anrheithio tiroedd yr [[Aedui]], a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi [[Afon Saône]], a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger [[Bibracte]], a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchmynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.
[[Categori:Llwythau Celtaidd Gâl]]
|