Hadrian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: arz:هادريان
newidiadau man using AWB
Llinell 3:
'''Publius Aelius Traianus Hadrianus''', [[24 Ionawr]] [[76]] - [[10 Gorffennaf]] [[138]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o 117 hyd ei farwolaeth,
 
Ganed Hadrian yn nhref [[Italica]], gerllaw [[Sevilla]] yn ne [[Sbaen]]. yr oedd yn berthynas i'r ymerawdwr [[Trajan]], a phenodwyd ef yn rhaglaw talaith [[Syria]] pan oedd Trajan yn ymladd yn erbyn y [[Dacia|Daciaid]]id. Wedi i Trajan farw cyhoeddodd gwraig Trajan, [[Pompeia Plotina]] fod yr ymerawdwr wedi mabwysiadu Hadrian fel mab cyn marw ac wedi ei ddewis fel olynydd. Nid oedd pawb yn credu hyn, ond daeth Hadrian yn ymerawdwr.
 
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|ymerodraeth]] a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn [[Dacia]]. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel [[Mur Hadrian]] ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]]. Ef hefyd a adeiladodd y [[Pantheon]] yn [[Rhufain]].