Brwydr Salamis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadau man using AWB
Llinell 7:
Yn 480 CC. ymosododd [[Xerxes I, brenin Persia]] ar y Groegiaid gyda byddin a llynges enfawr, gyda’r bwriad o wneud Groeg yn rhan o’r Ymerodraeth Bersaidd. Croesodd ei fyddin yr [[Hellespont]] ar bont wedi ei gwneud o longau, a meddiannodd ei fyddin ogledd Groeg, cyn anelu tua’r de, gyda’r llynges yn cadw cysylltiad a’r fyddin. Ymladdwyd [[Brwydr Artemisium]] rhwng y ddwy lynges heb ganlyniad clir, a’r un pryd ymladdwyd [[Brwydr Thermopylae]] ar y tir. Pan glywodd y llynges fod amddiffynwyr Thermopylae i gyd wedi eu lladd, symudodd y llynges tua’r de.
 
Roedd dadl yn Athen ynglyn a beth i’w wneud, gyda rhai o’r dinasyddion yn annog brwydro yn erbyn y fyddin Bersaidd ar y tir, fel y gwnaeth Athen yn llwyddiannus yn erbyn byddin Bersaidd lawer llai ym [[Brwydr Marathon| Mrwydr Marathon]] ddeng mlynedd yn gynt. Mynnai [[Themistocles]] y dylai’r Atheniaid adael eu dinas a dibynnu ar eu llynges, ac ef a enillodd y ddadl. Llwyddodd hefyd i berswadio’r Groegiaid eraill i ymladd ger Salamis; roedd y [[Sparta|Spartiaid]] yn arbennig yn argymell encilio i’r [[Peloponnesos]]. Cipiodd y Persiaid ddinasoedd [[Plataea]] a [[Thespiae]] yn [[Boeotia]], yma aethant ymlaen i feddiannu dinas Athen.
 
Yn llynges y Groegiad, roedd 378 o longau yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]], sydd wedyn eu eu rhestru fel a ganlyn:
Llinell 50:
 
Mae nifer o haneswyr (er enghraifft [[Victor Davis Hanson]], [[Donald Kagan]] a [[John Keegan]]) wedi disgrifio Brwydr Salamis fel y frwydr fwyaf tyngedfennol mewn hanes, gan ddadlau petai’r Persiaid wedi ennill y frwydr yma, byddai Groeg wedi dod yn rhan o’u hymerodraeth a byddai [[hanes Ewrop]] wedi bod yn wahanol.
 
 
== Salamis mewn llenyddiaeth ==
Llinell 61 ⟶ 60:
: θήκας τε προγόνων:
: νύν υπέρ παντών αγών
 
 
: Ymlaen, feibion y Groegiaid,
Llinell 68 ⟶ 66:
: A beddau eich cyndadau:
: Mae popeth yn y fantol.
 
 
==Llyfryddiaeth==