Brwydr Thermopylae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: vi:Trận Thermopylae
newidiadau man using AWB
Llinell 9:
Croesodd byddin Xerxes yr [[Hellespont]] ar bont wedi ei gwneud o gychod, a meddiannu gogledd Groeg, lle cafodd gefnogaeth nifer o’r [[dinas-wladwriaeth]]au. Mae dadlau ymhlith haneswyr ynghylch maint byddin y Persiaid; yn ôl Herodotus roedd tua dwy filiwn a hanner ohonynt, ond nid yw haneswyr diweddar yn derbyn ei ffigyrau. Cred rhai ei bod tua 250,000, tra cred eraill fod ei nifer yn llai, yn bennaf oherwydd eu bod o’r farn na fyddai digon o ddŵr ar gael i fyddin mor fawr.
 
Penderfynodd y Groegiaid geisio gwrthsefyll y Persiaid yn [[Thermopylae]], lle roedd y ffordd tua’r de yn mynd trwy fwlch cul, dim ond tua 12 medr yn y man culaf, rhwng y mynyddoedd a’r môr. Roedd byddin y Groegiaid yn cynnwys 300 [[hoplit]] o Sparta (a chyda hwy tua 600 o [[Helot|helotiaidhelot]]iaid, gan fod pob Spartiad yn mynd â dau was gydag ef, 500 o wŷr [[Tegea]], 500 o [[Mantinea]], 120 o [[Orcomenos]] a 1,000 arall o’r gweddill o [[Arcadia]], 400 o ddinas [[Corinth]], 200 o [[Fliunte]], 80 o [[Mycenae]], 700 o [[Thespia]]id a 400 o [[Thebai]], gyda 1,000 o’r [[Phocis|Ffociaid]] a [[Locria]]id. Er fod y Spartiaid yn un o’r grwpiau lleiaf yn y fyddin, hwy oedd yn arwain, dan ei brenin [[Leonidas]]; roeddynt yn filwyr proffesiynol tra’r oedd y gweddill yn ddinasyddion wedi eu galw i’r gad.
 
Pan gyrhaeddodd byddin Persia Thermopylae, dywedir i Xerxes anfon cennad at y Groegiaid yn gorchymyn iddynt ildio eu harfau rhag cael eu dinistrio. Ateb Leonidas oedd
:“Μολων λαβε'' – “Tyrd i’w casglu dy hun”.
 
[[Delwedd:Leonidas.jpg|thumb|chwith|300px|Cerflun o Leonidas.]]
Llinell 26:
Ar fedd y Spartiaid, rhoddwyd [[epigram]] gan y bardd [[Simonides]]:
 
:'''{{Hen Roeg|Ὦ ξεῖν᾿, ἀγγέλλειν Λακεδαιμονίοις ὅτι τῇδε}}'''
:'''{{Hen Roeg|κείμεθα τοῖς κείνων ῥήμασι πειθόμενοι}}'''
 
:"Dwed wrthynt yn Lacedaimon, ddieithryn ar dy hynt
: Mai yma yr ydym fyth, yn unol â'u deddfau hwy."
 
 
Mae hanes y frwydr wedi dod yn rhan o gynhysgaeth ddiwylliannol gwledydd y gorllewin, gyda’r pwyslais ar y 300 Spartiad, gan anghofio’n aml am y gweddill o’r fyddin. Ymddangosodd y ffilm ''The 300 Spartans'' yn [[1961]] , ac ym mis Mawrth [[2007]] y ffilm [[300 (ffilm)|300]], yn seiliedig ar nofel graffig [[Frank Millar]].
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|ca}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}}
 
[[Categori:Groeg yr Henfyd]]
[[Categori:Brwydrau Groeg|Thermopylae]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|ca}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}}
 
[[af:Veldslag van Thermopylai]]