Afon Ewffrates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: xmf:ევფრატი
newidiadau man using AWB
Llinell 4:
'''Afon Ewffrates'''<ref>Jones, Gareth (gol.). ''Yr Atlas Cymraeg Newydd'' (Collins-Longman, 1999), t. 94.</ref> ([[Groeg]]: ''Euphrátēs''; [[Acadeg]]: Pu-rat-tu; [[Hebraeg]]: פְּרָת ''Pĕrāth''; [[Arabeg]]: الفرات ''Al-Furāt''; [[Twrceg]]: Fırat; [[Cwrdeg]]: فرهات, Firhat, Ferhat) yw'r afon orllewinol o'r ddwy afon fawr sy'n diffinio [[Mesopotamia]], gydag [[Afon Tigris]] yn y dwyrain.
 
Mae'r afon tua 2,781 &nbsp;km (1,730 milltir) o hyd. Dechreua'r Ewphrates lle mae dwy afon yn cyfarfod, Afon Karasu sy'n tarddu yn ucheldiroedd [[Armenia]] i'r gogledd o [[Erzurum]] yn [[Twrci|Nhwrci]] ac Afon Murat, sy'n tarddu o ardal i'r de-orllewin o [[Mynydd Ararat|Fynydd Ararat]]. Mae'r Ewffrates yn llifo trwy [[Syria]], lle mae afonydd Khabur a Balikh yn ymuno a hi. Wedi hyn, nid oes unrhyw afon arall yn ymuno a hi cyn iddi gyrraedd y môr.
 
Mae'r afon yn llifo trwy [[Irac]], lle mae Afon Tigris yn ymuno a hi i'r gogledd o [[Basra]], yn ne Irac, ac yn ffurfio'r [[Shatt al-Arab]] sy'n arwain i'r môr yng [[Gwlff Persia|Ngwlff Persia]]. Ar un adeg roedd yr afon yn ymwahanu i nifer o sianeli yn Basra i ffurfio ardal eang o gorsydd, ond sychwyd llawer o'r rhain gan lywodraeth [[Saddam Hussein]] yn y 1990au. Yn ddiweddar mae yndrech wedi ei gwneud i ail-greu'r corsydd hyn, gyda rhywfaint o lwyddiant. Gall cychod gyrraedd hyd at ddinas Hit yn Irac, 1,930 &nbsp;km (1,200 milltir) o'r môr ond dim ond 53 medr uwch lefel y môr.
 
Ceir nifer o gyfeiriadau at yr Ewffrates yn y [[Beibl]] a'r [[Coran]]. Cyfeirir ati yn [[Llyfr Genesis]] fel un o [[Pedair Afon Paradwys|Bedair Afon Paradwys]] y traddodiad [[Beibl]]aidd. Roedd i'r afon ran bwysig yn natblygiad gwareiddiad [[Sumer]] yn y pedwerydd mileniwm CC., ac yr oedd nifer o ddinasoedd pwysig ar ei glannau, yn cynnwys [[Uruk]], [[Umma (dinas)|Umma]] ac [[Ur]]. Dyffryn yr Ewffrates oedd calon ymerodraethau diweddarach [[Babylonia]] ac [[Assyria]]. Am rai canrifoedd yr afon oedd y ffin rhwng [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] ac [[Ymerodraeth Persia]].