Gerddi Crog Babilon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Hanging_Gardens_of_BabylonHanging Gardens of Babylon.jpg|300px|bawd|Gerddi Crog Babylon (Martin Heemskerck, 16eg ganrif)]]
Yn ôl y traddodiad gosododd y brenin [[Nebuchodonosor]] y gerddi enwog hyn i fyny o barch i'w wraig Amytis. Roedd hi'n enedigol o [[Ecbatana]] ym mryniau [[Medea]] ac wedi arfer cael y pleser o rodio ar fryniau uchel coediog ei gwlad. Mae [[Babilon]] yn sefyll ar wastadedd undonog braidd a hiraethai'r frenhines am fynyddoedd irwedd gwlad ei genedigaeth. Felly creodd y brenin erddi paradwysaidd iddi. Roedd y gerddi hyn yn un o [[Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd]].
 
Ceir ambell ddigrifiad ohonynt yng ngwaith awduron clasurol fel [[Quintus Curtius]]. Roedd y gerddi yn fath o fynydd artiffisial wedi'i greu o sawl teras yn esgyn y naill uwch law y llall fel [[pyramid]] grisiog; addasiad o hen dechneg a ddefnyddid i godi'r [[Ziggurat|zigguratsziggurat]]s ym [[Mesopotamia]]. Safai'r gerddi ar sylfeini cadarn o fur trwchus sgwar 400 troedfedd o hyd a lled â'r tu mewn iddo wedi'i lenwi â cherrig. Safai pob teras ar res o golofnau cedyrn a chodai'r gerddi i uchder o hyd at 300 troedfedd.
 
Llifai [[Afon Euphrates]] heibio i'r Gerddi Crog a thynid dŵr o'r afon â math o "sgriw" [[Archimedes]] i'w [[dyfrhau]].