Catrin Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Rokotov_Portrait_Catherine_IIRokotov Portrait Catherine II.jpg|250px|bawd|Catrin II (Catrin Fawr) o Rwsia]]
 
'''Catrin II''' neu '''Catrin Fawr''' ([[Rwseg]]: Екатерина II Великая, ''Yekaterina II Velikaya''; (1729 - 1796) oedd Ymerodres [[Rwsia]] o [[28 Mehefin]] [[1762]] hyd ei marwolaeth, teyrnasiad o 34 mlynedd, yr hiraf wedi sefydliad Ymerodraeth Rwsia yn 1721.
Llinell 7:
Ni fu'r brodas yn llwyddiant, a dechreuodd Catrin ar gyfres o garwriaethau. Ar farwolaeth yr Ymerodres Elizabeth yn Ionawr [[1762]] daeth Pedr yn tsar fel Pedr III. Ym mis Gorffennaf bu gwrthryfel yn ei erbyn, a chyhoeddwyd Catrin yn ymerodres. Llofruddiwyd Pedr yn fuan wedyn. Cyhuddwyd Catrin o fod a rhan yn y llofruddiaeth ambell dro, ond nis oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.
 
Yr oedd Catrin yn darllen yn eang, ac yn llythyru a rhai o ddeallusion amlycaf Ewrop megis [[Voltaire]] a [[Denis Diderot|Diderot]]. Ymestynnodd ffiniau Ymerodraeth Rwsia i'r de ac i'r gorllewin, gan gynnwys [[Belarus]] a [[Lithuania]]. Ychwanegodd tua 200,000 milltir sgwar (518,000  km²) at diriogaeth yr ymerodraeth. Gorchfygwyd [[Twrci]] mewn rhyfel rhwng 1768 a 1774 ac eilwaith mewn rhyfel rhwng 1787 a 1792.
 
Cafodd Catrin strôc ar [[5 Tachwedd]], [[1796]], a bu farw'r diwrnod wedyn. Dilynwyd hi gan ei mab, Paul I.