Armenia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: min:Armenia
→‎Hanes: newidiadau man using AWB
Llinell 57:
O'r [[1550au]] ymlaen, roedd Armenia yn rhan o [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] a [[Persia|Phersia]]. Cymerodd [[Rwsia]] reolaeth dros Ddwyrain Armenia yn [[1813]] a [[1828]]. Fel cenhedloedd [[Cristnogaeth|Cristonogol]] eraill Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd yr Armeniaid yn ddinesyddion eilradd, gan ddioddef gwahaniaethu hiliol. Arweiniai galwadau am hawliau cydraddol o'r [[1880au]] ymlaen at ymateb llym gan yr ymerodraeth a bu mwy nag un cyflafan yn erbyn y boblogaeth Armenaidd yn yr 1890au ac eto yn [[1915]]. Mae Armeniaid a'r rhan fwyaf o haneswyr y tu allan i Dwrci yn tueddu i weld digwyddiadau 1915, pryd bu farw rhwng 650,000 a 1.5 miliwn o bobl, fel ymgais fwriadiol at hil-laddiad. Dehongliad swyddogol y digwyddiadau yn Nhwrci yw bod miloedd o bobl ar y ddwy ochr wedi marw mewn rhyfel cartref, o glefyd ac o newyn.
 
[[Delwedd:Yerevan_Mount_AraratYerevan Mount Ararat.jpg|200px|bawd|chwith|Golygfa ar y brifddinas [[Yerevan]] gyda [[Mynydd Ararat]] yn y cefndir]]Gyda [[Chwyldro Rwsia]] yn [[1917]], daeth Dwyrain Armenia yn annibynnol o Rwsia fel rhan o wladwriaeth ynghyd â [[Georgia]] ac [[Azerbaijan]]. Ni pharodd y ffederasiwn ond am hanner flwyddyn, a daeth Dwyrain Armenia yn wladwriaeth annibynnol ar [[28 Mai]] [[1918]]. Pan chwalwyd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], ymunodd y tiriogaethau Armenaidd o fewn yr ymerodraeth â Gweriniaeth Ddemocrataidd Armenia dan un o delerau [[Cytundeb Sèvres]] a lofnodwyd ar [[10 Awst]] [[1920]]. Serch hynny, roedd Armenia yn gorfod wynebu rhagor o ryfeloedd. Collodd ryfel â Thwrci yn [[1920]] (y [[Rhyfel Dwrco-Armenaidd]]) ac o dan telerau [[Cytundeb Alexandropol]] gorfu iddi ildio'r rhan fwyaf o'i harfau a'i thir i Dwrci. Ar yr un pryd, ymosodwyd arni gan [[y Fyddin Goch]], a arweiniodd at reolaeth Sofietaidd yn rhelyw'r wlad o fis Rhagfyr [[1920]] ymlaen. Yn [[1922]], ymgorfforwyd Armenia yn [[yr Undeb Sofietaidd]] fel rhan o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Transcausasia ([[SFSR Transcaucasia]]), [[gweriniaeth]] a barodd tan [[1936]], pryd daeth Armenia yn weriniaeth ar wahân o fewn yr Undeb Sofietaidd.
 
Ailenillodd Armenia ei hannibyniaeth gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd yn [[1991]].