Novosibirsk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (Robot: Yn newid ca:Novosibirsk yn ca:Novossibirsk
→‎Hanes: newidiadau man using AWB
Llinell 23:
[[Delwedd:Theatre32.jpg|bawd|left|250px|Theatr opera a ballet Novosibirsk yng nghanol y ddinas]]
Sefydlwyd y ddinas ym [[1893]] fel yr oedd y rheilffordd Draws-Siberaidd yn cael ei hadeiladu drwy'r ardal. Ar y cychwyn, enw'r dreflan oedd ''Aleksandrovsk'' er parch i Sant [[Alexander Nevsky]], noddwr nefol Tsar [[Alexander III o Rwsia|Alexander III]]. Ar ôl ei farwolaeth ym [[1895]], fe'i hailenwyd yn Novo-nikolayevsk er parch i Sant [[Nikolay Chudotvorets]] noddwr nefol y tsar newydd [[Niclas II o Rwsia|Niclas II]]. Dyrchafwyd y dreflan i statws dinas ym [[1903]], ac ar drothwy [[Chwyldro Rwsia]] ym [[1917]] roedd ei phoblogaeth wedi tyfu i ryw 80,000 o drigolion. Yn sgil y chwyldro, roedd Novosibirsk yn bencadlys pwysig i'r lluoedd gwyn yn y [[Rhyfel Cartref Rwsia|Rhyfel Cartref]] o dan Llyngesydd [[Aleksandr Kolchak]], ond cipiwyd y ddinas gan [[y Fyddin Goch]] ym [[1919]]. Ym [[1921]], symudwyd gweinyddiaeth y rhanbarth o [[Omsk]] i Novosibirisk, ac o hyn ymlaen hon oedd prifddinas y rhanbarth. Ym [[1925]], derbyniodd ei enw presennol Novosibirsk (''Dinas Newydd Siberia''). O'r 1930au ymlaen, newidiodd cymeriad y ddinas: datblygodd fel canolfan ddiwydiannol, yn enwedig yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], pryd symudwyd llawer o ffatrïoedd o orllewin Rwsia er diogelwch. Ym [[1957]], adeiladwyd argae i greu cronfa ddŵr a gorsaf drydan hydroelectrig yn agos at y ddinas ([[Cronfa Ddŵr Novosibirsk]] a [[Gorsaf Drydan Hydroelectrig Novosibirsk]]). Dwyshaodd erydiad pridd ar ôl i fforestydd gael eu torri er mwyn clirio tir o gwmpas y gronfa, gan arwain at llifogydd amlach a phroblemau ecolegol eraill. Yr un flwyddyn adeiladwyd [[Akademgorodok]] ar lannau'r llyn yn ymyl Novosibirsk. Sefydlwyd pedair ar ddeg o athrofeydd ymchwil a phrifysgolion yno mewn cyfnod byr, a lleolwyd pencadlys newydd cangen Siberia [[Athrofa Wyddorau Rwsia]] yno. Erbyn dechrau'r 1960au roedd poblogaeth y ddinas wedi tyfu i un miliwn. Dechreuwyd adeiladu [[metro]] ym [[1979]], a'r llinell gynta'n agor ym [[1985]].
 
 
[[Categori:Dinasoedd Rwsia|Novosibirsk]]