Simbabwe Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.4) (Robot: Yn newid hu:A Nagy Zimbabwe Nemzeti Műemlék yn hu:Nagy-Zimbabwe nemzeti műemlék |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 2:
'''Zimbabwe Fawr''' yw'r enw a roddir ar adfeilion dinas hynafol yn [[De Affrica (rhanbarth)|Affrica Ddeheuol]] (lleoliad: 20°16′De 30°54′Dw, yn [[Zimbabwe]] heddiw) a oedd ar un adeg yn brifddinas i ymerodraeth sylweddol a elwir yn [[Ymerodraeth Munhumutapa]] (hefyd 'Monomotapa' neu 'Mwene Mutapa'). O'i chanolfan yn Zimbabwe Fawr, rheolai'r ymerodraeth hon diriogaeth eang sy'n gorwedd heddiw yn y gwledydd presennol Zimbabwe (a enwir ar ôl y ddinas) a [[Mozambique]]. Roedd trigolion y ddinas yn masnachu ag [[Arabia]] ac efallai [[Asia]] trwy porthladdoedd fel [[Sofala]], i'r de o ddelta [[Afon Zambezi]].
Codwyd Zimbabwe Fawr yn y cyfnod rhwng yr [[11eg ganrif]] a'r [[15fed ganrif]]. Amcangyfrifir fod tua 18,000 o bobl yn byw a gweithio yno ar un adeg. Adeiladau o feini mawr, rhai ohonyn nhw'n anferth, a geir ar wasgar ar safle eang sy'n cynnwys tua 1,800 erw o dir (7
Heddiw mae Zimbabwe Fawr yn fath o gysegrfan genedlaethol yn Zimbabwe, yn symbol o wareiddiad brodorol y wlad ac Affrica Ddeheuol cyn dyfodiad y trefedigaethwyr [[Ewrop]]eaidd. Darganfuwyd y cerflun a elwir yn [[Aderyn Zimbabwe]], symbol genedlaethol Zimbabwe, ar y safle. Mae safle [[archaeoleg]]ol Zimbabwe Fawr ar restr [[UNESCO]] o [[Safle Treftadaeth y Byd|Safleoedd Treftadaeth y Byd]].
|