Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bethlehem"

Ychwanegwyd 4 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
newidiadau man using AWB
B (r2.7.3rc2) (Robot: Yn newid pt:Belém (Cisjordânia) yn pt:Belém (Palestina))
(newidiadau man using AWB)
[[Delwedd:Templar Architecture In Bethlehem galilee 2004.jpg|bawd|250px|Eglwys o gyfnod y [[Croesgadau]] ar gyrion '''Bethlehem''']]
:''Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r dref hanesyddol yn Judaea. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler [[Bethlehem (gwahaniaethu)]]''
 
Mae '''Bethlehem''' yn ddinas yn y [[Dwyrain Canol]] ar y [[Glan Orllewinol|Lan Orllewinol]], lle cafodd [[Iesu Grist]] ei eni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y traddodiad [[Beibl]]aidd. Yng ngwlad [[Judea]] oedd hi yn amser Crist, gwlad yr [[Iddewon]], ond mae mwyafrif y boblogaeth nawr yn [[Arabiaid]] ac mae'r ddinas dan reolaeth [[Awdurdod Palesteina]]. Ystyr '''Bethlehem''' mewn [[Hebraeg]] safonol yw '''"[[tŷ]] [[bara]]"'''.
 
Gorwedd safle traddodiadol [[Beddrod Rachel]], sy'n safle cysegredig pwysig yn [[Iddewiaeth]], ar ymyl y ddinas. Mae Bethlehem yn gartref i un o'r cymunedau [[Cristnogaeth|Cristnogol]] Arabaidd mwyaf yn y Dwyrain Canol. Mae'r ddinas yn gorwedd tua 10  km (6 milltir) i'r de o [[Jeriwsalem]], ar uchder o tua 765 m (2,510 troedfedd) uwchben lefel y môr. Mae cylch dinesig Bethlehem yn cynnwys trefi llai [[Beit Jala]] a [[Beit Sahour]].
 
[[Delwedd:BethlehemInsideCN.jpg|250px|bawd|Tu mewn i [[Eglwys y Geni]], '''Bethlehem''']]Saif [[Eglwys y Geni]], a godwyd gan yr ymerodr [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] [[Cystennin]] Mawr yn y flwyddyn [[330]], yng nghanol Bethlehem dros ogof a elwir y Crypt Sanctaidd, man geni traddodiadol Iesu Grist. Hon efallai yw'r [[eglwys]] Gristnogol hynaf yn y byd sy'n dal i sefyll. Gerllaw y mae ogof arall lle treuliodd Sant [[Jerome]], un o dadau'r eglwys, 30 mlynedd o'i oes yn cyfieithu'r Ysgrythurau i [[Lladin|Ladin]] gan osod sylfaen y Beibl [[Fwlgat]].
446,839

golygiad