Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: war:Celta
newidiadau man using AWB
Llinell 12:
 
==Yr enw==
Ceir llawr o gyfeiriadau gan awduron o'r hen-fyd yn ysgrifennu mewn [[Groeg]] a [[Lladin]] at y ''Celti'' (''Κελτός'', ''Κελτοί'') neu'r ''Celtae'' am lwythau yng ngogledd yr Eidal ac i'r gogledd o'r [[Alpau]], ac yn ddiweddarach am lwythau yn siarad ieithoedd cyffelyb yn [[Anatolia]]. Mae enw'r ''Galli''' (Galiaid) a ''Galatae'' ([[Galatiaid]]) yn dod o'r un gwreiddyn. Defnyddid y gair ''Celtiberi'' am drigolion canolbarth [[Sbaen]].<ref name="ReferenceA">Koch (gol) ''Celtic culture'' Cyf. 1, t. 371</ref>
 
Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw. Gall darddu o hen air [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|Indo-Ewropeaidd]]; efallai ''*k'el'' yn golygu "cuddio" (cymharer Cymraeg "celu") neu ''*kel'' yn golygu "gyrru ymlaen".<ref>Koch (gol) ''Celtic culture'' Cyf. 1, t. 371<name="ReferenceA"/ref>
 
Yn ôl chwedl a adroddir gan [[Diodorus Siculus]], roedd y Galiaid yn ddisgynyddion i [[Heracles]]. Dywedir fod Heracles wedi ymweld ag [[Alesia]] yng Ngâl a bod merch y brenin yno wedi syrthio mewn cariad ag ef. Ganwyd mab o'r enw Galates iddynt. Yn ôl y chwedl yma, Celtus oedd cyndad y Celtiaid.<ref>Koch (gol) ''Celtic culture'' Cyf 3, tt. 905-6</ref>
Llinell 23:
Mae'r cyfeiriadau cynnar ar y Celtiaid yn dod gan awduron Groegaidd, ac yn ddiweddarach gan awduron Rhufeinig. Crybwyllwyd y Celtiaid am y tro cyntaf gan y [[Gwlad Groeg|Groegwr]] [[Hecataeus o Filetos]] ym [[517 CCC]]. Fe'i gelwid yn Κελτοί (''keltoi''), sydd yn golygu "pobl gudd". Dywed Hecataeus fod dinas Roegaidd Massillia ([[Marseille]]) wedi ei sefydlu yng ngwlad y [[Ligwriaid]], gerllaw gwlad y Celtiaid. Mae hefyd yn crybwyll tref Geltaidd o'r enw Nyrax, sydd yn ôl pob tebyg yn cyfateb i [[Noricum]] yn [[Awstria]].<ref>Powell ''The Celts'' t. 15</ref> Ceir y cyfeiriad enwocaf atynt gan Roegwr arall, [[Herodotus]], yng nghanol y 5ed ganrif CCC. Dywed ef:
 
:Mae'r afon Ister ([[Afon Donaw]]) yn dechrau gyda'r ''Keltoi'' a dinas Pyrene, ac yn llifo fel ei bod yn gwahanu Ewrop trwy'r canol (mae'r ''Keltoi'' tu draw i Bileri Ercwlff ac yn ffinio ar y Kynesiaid, sy'n byw pellaf tuag at y machlud o holl drigolion Ewrop).<ref>Herodotus ''Hanesion'' 2.33</ref>
 
Mae Afon Donaw yn tarddu yng nghanolbarth yr [[Almaen]], ond mae'n ymddangos oddi wrth hyn fod Herodotus yn credu ei bod yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin, ym mynyddoedd y [[Pyreneau]]. Roedd "Pileri Ercwlff" yn yr hen fyd yn gyfeiriad at y creigiau bob ochr i [[Culfor Gibraltar|Gulfor Gibraltar]]. Mae'n amlwg fod Herodotus yn meddwl am y Celtiaid fel pobl yn byw yn y gorllewin; de-orllewin [[Ffrainc]] neu ogledd-orllewin [[Sbaen]] yn ôl pob tebyg.<ref>Powell ''The Celts'' t. 15-6</ref>
Llinell 57:
Tuedd archeolegwr, ar y llaw, arall, yw diffinio "Celtiaid" fel pobl ag iddynt fath arbennig o ddiwylliant yn yr ystyr archeolegol. Cred rhai ysgolheigion fod [[Diwylliant y Meysydd Wrnau]] yng ngogledd yr [[Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]] yn dynodi presenoldeb Celtiaid. Roedd y diwylliant yma yn amlwg yng nghanolbarth Ewrop rhwng tua [[1200 CCC]] a [[700 CCC]]. Mae'r [[Y diwylliant Hallstatt|diwylliant Hallstatt]] a ddatblygodd yng nghanolbarth Ewrop rhwng tua 700 CCC a [[500 CCC]] hefyd wedi ei gysylltu â'r Celtiaid.
 
Dilynwyd y diwylliant Hallstatt gan [[Diwylliant La Tène|ddiwylliant La Tène]], hefyd yng nghanolbarth Ewrop. Cysylltir y diwylliant hwn gyda'r Celtiaid gan lawer o ysgolheigion, sy'n nodi bod cryn nifer o enwau Celtaidd ar afonydd o gwmpas rhan uchaf [[Afon Donaw]] ac [[Afon Rhein]]. Cred eraill fod y diwylliant La Tène yn rhy hwyr i fod yn brawf o leoliad mamwlad y Celtiaid, a'u bod wedi ymledu i'r ardaloedd hyn o rywle arall. Ni ymdaenodd diwylliant La Tène i bob ardal Geltaidd ei hiaith; roedd Sbaen a'r rhan fwyaf o Iwerddon tu allan i draddodiad La Tène.<ref name="Davies Y Celtiaid t. 47">Davies ''Y Celtiaid'' t. 47</ref>
 
Syniad arall yw bod mamwlad y Celtiaid fwy tua'r gorllewin. Mae'r haneswyr [[Diodorus Siculus]] a [[Strabo]] yn awgrymu mai yn ne [[Ffrainc]] yr oedd mamwlad y Celtiaid, tra awgrymodd [[Plinius yr Hynaf]] fod ''Celtica'', gwlad wreiddiol y Celtiaid, ger aber yr [[Afon Guadalquivir]] yn ne Spaen a Portiwgal. Mae ymchwil ddiweddar wedi nodi tebygrwydd genidol rhwng y Cymry a'r Gwyddelod a'r Basgiaid, sy'n awgrymu lledaeniad tua'r gogledd o [[Sbaen]] ar hyd yr arfordir, symudiad a ddechreuodd tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.<ref>Oppenheimer ''The origins of the British'' tt. 116-120</ref>.
Llinell 75:
Ymhellach i'r dwyrain, roedd teyrnas Geltaidd y [[Scordisci]] wedi sefydlu eu prifddinas yn Singidunum ([[Belgrade]] heddiw) erbyn y 3edd ganrif CCC. Mae hefyd lawer o olion archeolegol mewn rhannau o [[Hwngari]]. Cofnodir fod Galiaid wedi ymsefydlu yn [[Pannonia]] yn y 3edd ganrif CCC. oherwydd gorboblogi yng Ngâl, ac yn [[279 CCC]] ymosododd byddin o'r Galiaid hyn dan arweiniad [[Brennus (3edd ganrif CCC)|Brennus]] ar y Groegiaid, gan eu gorchfygu yn [[Thermopylae]] a cheisio anrheithio cysegr [[Apollo]] yn [[Delphi]] cyn cael eu gorfodi i encilio. Ymsefydlodd rhai o'r Celtiaid hyn yn [[Thrace]] ([[Bwlgaria]]), a symudodd un garfan i [[Anatolia]] tua [[278 CCC]], lle gelwid hwy'r [[Galatiaid]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' tt. 53-4</ref> Nododd Sant [[Sierôm]] yn y [[4edd ganrif]] fod gan y Galatiaid eu hiaith eu hunain, oedd yn debyg i iaith y [[Treveri]] yng Ngâl.<ref>Powell ''The Celts'' t.23</ref>.
 
Y farn gyffredinol hyd yn weddol ddiweddar oedd bod yr ieithoedd Celtaidd wedi cyrraedd Prydain ac Iwerddon trwy i nifer fawr o Geltiaid ymfudo yno o'r cyfandir yn ystod [[Oes yr Haearn]] a disodli'r boblogaeth flaenorol. Barn llawer o ysgolheigion bellach yw na fu ymfudiad mawr o'r fath. Cred rhai bod yr ieithoedd Celtaidd wedi bod yn bresennol yn yr ynysoedd ers [[Oes yr Efydd]], ac awgrymodd Oppenheimer y gallent fod wedi bod yno ers y cyfnod [[Neolithig]].<ref> Stephen Oppenheimer ''The origins of the British'' (Constable, 2006) tt. 408-9</ref>
 
===Gwrthdaro â Rhufain===
Llinell 99:
Ymhlith llwythau pwysicaf canolbarth Gâl, roedd yr [[Arverni]], y [[Carnutes]], yr [[Aedui]] a'r [[Allobroges]]. Yng ngogledd-ddwyrain Gâl, roedd nifer o lwythau a elwid y [[Belgae]], oedd efallai o darddiad Almaenaidd yn wreiddiol, yn cynnwys y [[Treveri]] a'r [[Nervii]]. Ceid rhai llwythau Belgaidd yn ne-ddwyrain [[Lloegr]] hefyd; ymddengys eu bod wedi mudo yno ychydig cyn ymweliad cyntaf Iŵl Cesar â'r ynys. Gweler [[Rhestr o lwythau Celtaidd]] am restr gyflawn.
 
Rheolid y rhan fwyaf o'r llwythau hyn gan [[Brenin|frenhinoedd]]. Roedd gan ambell lwyth, megis yr [[Eburones]] ddau frenin <ref>James ''Exploring the world of the Celts'' tud. 118</ref>; efallai rhag ofn i un fynd yn rhy bwerus, megis dau frenin [[Sparta]]. Ymysg yr [[Aedui]], yr [[Helvetii]] a rhai pobloedd eraill, roedd ynadon etholedig wedi cymryd lle'r brenin erbyn cyfnod Cesar. Gelwid prif ynad yr Aedui yn ''Vergobret'', ac etholid ef am gyfnod o flwyddyn.<ref name="ReferenceB">James ''Exploring the world of the Celts'' tud. 120</ref>
 
O dan y brenhinoedd roedd yr uchelwyr; dywed Cesar fod pawb o bwys ymysg y Celtiaid yn perthyn un ai i'r uchelwyr (''equites'') neu'r [[Derwydd|Derwyddon]]on. Roedd gan nifer o lwythau [[senedd]] yng nghyfnod Cesar; er enghraifft roedd gan y [[Nervii]] senedd o 300 <ref>James ''Exploring the world of the Celts'' tud. 120<name="ReferenceB"/ref>. Ychydig o rym oedd gan y bobl gyffredin; gallent ddod yn ddilynwyr uchelwyr a chael eu hamddiffyn ganddo yn gyfnewid am eu teyrngarwch.
 
===Economi===
Llinell 115:
[[Delwedd:Gundestrupkarret1.jpg|250px|bawd|dde|[[Pair Gundestrup]]]]
 
Cysylltir y Celtiaid yn aml â [[Y diwylliant Hallstatt|diwylliant Hallstatt]]. Mae'r diwylliant yma yn dyddio o ddiwedd yr [[Oes yr Efydd|Oes Efydd]] a rhan gyntaf yr [[Oes Haearn]] yng nghanolbarth Ewrop. Yn sicr cofnodir pobloedd oedd yn siarad ieithoedd Celtiaid mewn llawer o'r ardaloedd lle ceir y diwylliant yma, ond mae'n debyg fod pobloedd oedd yn siarad ieithoedd eraill yn dangos nodweddion y diwylliant yma hefyd.<ref> name="Davies ''Y Celtiaid'' t. 47<"/ref>
 
Dilynwyd diwylliant Hallstatt dan [[Diwylliant La Tène]] yn ddiweddarach yn yr Oes Haearn, eto yng nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r [[Alpau]]. Mae rhywfaint mwy o sail dros gysylltu'r Celtiaid â'r diwylliant yma, ac mae celfyddyd gwaith metel La Tène yn dangos nodweddion celfyddyd Geltaidd. Ymledodd diwylliant La Tène cyn belled â Phrydain a rhan o Iwerddon; er enghraifft ystyrir y casgliad o eitemau a ddarganfuwyd yn [[Llyn Cerrig Bach]] ar [[Ynys Môn]] yn un o'r casgliadau pwysicaf o gelfi La Tène yn [[Ynysoedd Prydain]].<ref>Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwy Môn)</ref>
Llinell 127:
[[Delwedd:KeltendorfDJHSteinbachamDonnersberg.jpg|bawd|chwith|250px|Pentref Celtaidd wedi ei ail-greu yn Steinbach am Donnersberg.]]
 
Roedd bywyd y Celtiaid yn amrywio cryn dipyn mewn gwahanol rannau o'r byd Celtaidd. Mewn rhai rhannau adeiledid [[bryngaer|bryngaerau]]au amddiffynnol, rhai ohonynt o faint sylweddol iawn. Ar y cyfandir o ddiwedd y [[3edd ganrif CCC]] ymlaen, datblygodd trefi a elwir yn [[Oppidum|Oppida]]. Mae cloddio archeolegol wedi bod mewn nifer o'r rhain, yn cynnwys [[Magdalensberg]] yn Awstria, [[Oppidum Manching|Manching]] yn yr Almaen a [[Bibracte]] ac [[Alesia]] yn Ffrainc.
 
Ceir llawer o gyfeiriadau at fywyd a nodweddion y Celtiaid gan awduron clasurol. Maent yn cytuno fod y Celtiaid yn bobl ryfelgar, ond eu bod yn ymladd fel casgliad o unigolion yn hirach nag fel byddin ddisgybledig yn null y Rhufeiniaid. Dywedir eu bod yn hoff o gasglu pennau eu gelynion a'u harddangos yn eu pentrefi. Ymddengys fod gan y pen dynol arwyddocâd neilltuol i'r Celtiaid, ac efallai fod adlewyrchiad o hyn yn chwedl ''[[Branwen ferch Llŷr]]'' ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]], lle mae [[Bendigeidfran]], wedi ei glwyfo hyd angau, yn gorchymyn torri ei ben a'i gladdu yn [[Llundain]] i amddiffyn y deyrnas<ref>Williams, Ifor ''Pedair Keinc y Mabinogi''</ref>.
Llinell 135:
Roedd pedair prif ŵyl yn y flwyddyn Geltaidd: "Imbolc" ([[Gŵyl Fair y Canhwyllau|Gŵyl y Canhwyllau]]) ar [[1 Chwefror]], yn gysylltiedig â'r dduwies [[Brigit]] ("Ffraid" yn Gymraeg); "Beltain" ([[Calan Mai|Gŵyl Galan Mai]]) ar [[1 Mai]], yn gysylltiedig â ffrwythlondeb ac efallai â duw'r haul, [[Belenos]]; "Lughnasa" ([[Gŵyl Galan Awst]]) ar [[1 Awst]] yn gysylltiedig â'r cynhaeaf a'r duw [[Lugh]] neu [[Lleu Llaw Gyffes]], a "[[Samhain]]" ([[Nos Galan Gaeaf|Gŵyl Galan Gaeaf]]), yr ŵyl bwysicaf y pedair, ar [[31 Hydref]].<ref>Freeman tt. 100-1</ref> Ar Ŵyl Galan Gaeaf, roedd y ffiniau rhwng y byd daearol a'r arall-fyd yn diflannu, syniad sy'n parhau i raddau yn rhai o arferion dathlu [[Nos Galan Gaeaf|Gŵyl Galan Gaeaf]]. [[Calendr Coligny]] o Ffrainc, wedi ei ysgrifennu yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. Dywed Iŵl Cesar eu bod yn mesur cyfnodau amser yn ôl nosweithiau yn hytrach na dyddiau, rhywbeth sydd efallai wedi goroesi yn y gair Cymraeg "pythefnos".<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.18</ref>
 
Er bod cymdeithasau'r Celtiaid yn un batriarchaidd, mae'n ymddangos fod i ferched safle uwch yn eu plith nag yn y rhan fwyaf o gymdeithasau'r cyfnod. Er enghraifft, un o'r darganfyddiadau mwyaf ysblennydd o'r byd Celtaidd yw bedd yn [[Vix]] yn nyffryn [[Afon Seine]] sy'n dyddio o tua 500 CCC. Bedd dynes oedd hon; ar un adeg fe'i disgrifid gan ysgolheigion fel "tywysoges Vix", ond y farn gyffredinol erbyn hyn yw mai math o offeiriades neu [[siaman]] oedd hi.<ref>Davies ''Y Celtiaid'' tt. 22-3</ref> Ceir hanes [[Buddug (Boudica)]] yn arwain gwrthryfel yn erbyn Rhufain, ac mae esiamplau eraill megis y breninesau [[Cartimandua]] ym Mhrydain a [[Medb]] yn Iwerddon, y ddwy i bob golwg a mwy o rym a dylanwad na'u gwŷr. Mae'r hanesydd [[Dio Cassius]] yn nodi rhyddid rhywiol merched Celtaidd:<ref> Dio Cassius Cyfrol IX Llyfrau 71-80, Loeb Classical Library, 1927 ISBN 0674991966.</ref> <blockquote>...sylw ffraeth a wnaed gan wraig Argentocoxus, Caledoniad, i [[Livia|Julia Augusta]]. Pan oedd yr ymerodres yn tynnu ei choes, wedi gwneud y cynghrair, am ryddid ei rhyw gyda dynion ym Mhrydain, atebodd hithau: "Rydym ni'n cyfarfod ag anghenion natur mewn dull llawer gwell na chi ferched Rhufeinig; oherwydd rydym ni'n cysylltu'n agored a'r dynion gorau, tra'r ydych chi yn gadael i chi'ch hunain gael eich llygru yn y dirgel gan y gwaelaf." </blockquote>
 
===Crefydd===
Llinell 142:
Roedd [[Amldduwiaeth Geltaidd|crefydd draddodiadol y Celtiaid]] yn cynnwys nifer fawr o dduwiau. Duwiau lleol oedd llawer o'r rhain, a'u dylanwad wedi ei gyfyngu i lecyn arbennig. Ar y llaw arall roedd rhai duwiau oedd yn cael eu haddoli dros ardal eang iawn. Er enghraifft mae [[Lleu]] yng Nghymru yn cyfateb i [[Lugh]] yn Iwerddon a [[Lugos]] yng Ngâl. Mae'r "Dinlle" yn yr enw [[Dinas Dinlle]] yn ei hanfod yr un enw â ''Lugdunum'', hen enw dinas [[Lyon]]. Ymddengys fod [[Epona]], duwies geffylau'r Galiaid (cymharer y gair "ebol" yn Gymraeg) yr un dduwies a [[Macha]] yn Iwerddon a [[Rhiannon]] yng Nghymru. Mae nifer o'r cymeriadau ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]], fel Lleu a Rhiannon, i bob golwg yn dduwiau Celtaidd wedi eu troi yn gymeriadau o gig a gwaed. Esiampl arall yw [[Manawydan|Manawydan fab Llŷr]], sy'n cyfateb i dduw'r môr, [[Manannán mhac Lir]], yn Iwerddon. Uniaethir [[Mabon fab Modron]] yn chwedl [[Culhwch ac Olwen]] a'r duw [[Maponos]], a enwir ar nifer o arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Un o'r prif dduwiau oedd y duw corniog, [[Cernunnos]], efallai duw hela ac arglwydd y fforest.<ref>Davies ''Y Celtiaid'' t. 81</ref> Elfen arall oedd yn adnabyddus trwy'r byd Celtaidd oedd y triawd o fam-dduwiesau.<ref>Anne Ross "Y diwylliant Celtaidd" yn Bowen (gol) ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' tt. 109-10</ref> Dywed rhai bod yr hen grefydd Geltaidd wedi goroesi mewn ffurf o [[Neo-baganiaeth]].
 
Mae awduron Rhufeinig yn cysylltu'r Celtiaid a'r [[Derwydd|Derwyddon]]on ac yn cyfeirio at seremonïau crefyddol mewn llwyni coed sanctaidd. Ceir cyfeiriad at hyn yn hanes [[Tacitus]] am ymosodiad y Rhufeiniad dan [[Suetonius Paulinus]] ar [[Ynys Môn]] yn [[60]] CC.<ref>Cornelius Tacitus ''Annales'' XIV</ref> Yn ôl [[Poseidonius]] ac awduron eraill roedd tri dosbarth yn gyfrifol am grefydd a diwylliant Gâl, y derwyddon, y beirdd a'r ''[[vates]]''.<ref>Dyfyniad yn Freeman ''The philosopher and the druids'' t. 158</ref> Dywed rhai awduron Rhufeinig, er enghraifft Iŵl Cesar a Plinius yr Hynaf, fod y Celtiaid yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.16</ref> Yn ôl Cesar, roedd Derwyddiaeth wedi dechrau ym Mhrydain ac wedi lledaenu i Gâl.<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.13</ref>
 
Cyrhaeddodd [[Cristnogaeth]] rannau mwyaf dwyreiniol y byd Celtaidd yn gynnar iawn; er enghraifft ysgrifennodd [[Yr Apostol Paul]] ei [[Llythyr Paul at y Galatiaid|Epistol at y Galatiaid]] cyn [[64]] CC. Roedd Cristnogaeth wedi ei sefydlu yn y rhannau Celtaidd o'r Ymerodraeth Rufeinig erbyn y [[4edd ganrif]],<ref>E.G. Bowen "Cristnogaeth gynnar yng Ngâl a gwledydd Celtaidd y gorllewin" yn Bowen (gol) ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' t. 137</ref> a chenhadwyd [[Iwerddon]] yn y [[5ed ganrif]]. Yn Iwerddon, yr Alban, Cymru a Llydaw, datblygodd yr hyn a elwir yn "Gristionogaeth Geltaidd". Teithiodd cenhadon o Iwerddon, yn arbennig, ar hyd a lled y cyfandir, a thyfodd celfyddyd nodweddiadol. Yr enghraifft enwocaf o'r gelfyddyd yma yw llawysgrif addurnedig [[Llyfr Kells]], sy'n dyddio o tua [[800]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' t. 131</ref>
Llinell 168:
Yn y cyfnod diweddar, nododd yr hanesydd Albanaidd [[George Buchanan]] yn ei lyfr ''Rerum Scoticarum Historia'' ([[1582]]) fod grŵp o ieithoedd ym Mhrydain ac Iwerddon a hen iaith Gâl oedd ar wahân i'r ieithoedd Lladin a'r ieithoedd Germainid, a galwodd hwy'r ieithoedd Galaidd. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" am rai o drigolion Prydain ac Iwerddon, gan awgrymu fod Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban wedi cyrraedd yno gydag ymfudwyr o dde Gâl. Nid oedd ef yn cynnwys y Brythoniaid yn ei ddefnydd o "Celt".<ref>John Collis, "George Buchanan and the Celts in Britain" yn ''Celtic Connections: proceedings of the tenth international cnference of Celtic Studies'' tt. 91-107</ref>
 
Mae'r defnydd o'r geiriau 'Celtiaid' a 'Cheltaidd' yn yr ystyr fodern yn deillio o lyfr a gyhoeddwyd yn [[1703]] gan y [[Llydaw|Llydawr]]r [[Paul-Yves Pezron]]. Yn ''Antiquité de la nation, et de langue des celtes'' dangosodd fod y Llydäwyr a'r Cymry yn perthyn i'w gilydd, a dywedodd eu bod yn ddisgynyddion y Celtiaid yr oedd yr awduron clasurol yn cyfeirio atynt.<ref name="Davies Y Celtiaid tt. 169-70">Davies ''Y Celtiaid'' tt. 169-70</ref>
 
Ym [[1707]] cyhoeddodd yr ieithydd a hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] y gyfrol ''Glossography'', y gyfrol gyntaf o'r ''Archaeologia Britannica'' arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Dangosodd fod ieithoedd megis [[Cymraeg]], [[Llydaweg]] a [[Gwyddeleg]] yn perthyn i'w gilydd, a rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r [[ieithoedd Celtaidd]].<ref> name="Davies ''Y Celtiaid'' tt. 169-70<"/ref> Ymddengys mai Lhuyd oedd y person cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" mewn rhywbeth tebyg i'w ystyr fodern, er mai term ieithyddol ydoedd ganddo ef.
 
[[Delwedd:Iolo Morganwg.jpg|de|bawd|160px|Iolo Morgannwg]]
Llinell 204:
* Philip Freeman ''The philosopher and the druids: a journey among the ancient Celts'' (Souvenir Press, 2006) ISBN 9780285637740
*[[Miranda Green|Miranda J. Green]] (gol.), ''The Celtic world'' (Llundain: Routledge, 1995) ISBN 0-415-05764-7
*Simon James, ''Exploring the world of the Celts'' (Llundain, Thames & Hudson, 1993 ) ISBN 0500050678
*John T. Koch (gol.) ''Celtic culture: a historical encyclopedia'' 5 cyfrol. (Santa Barbara (California), ABC-CLIO, 2006) ISBN 1-85109-440-7
*T.G.E. Powell, ''The Celts'' (Llundain, Thames & Hudson, 1958; argraffiad newydd 1987)
Llinell 225:
 
===Dadl ynglŷn a "Cheltiaid" ynysig===
* John Collis ''The Celts: origins & inventions'' (Stroud: Tempus, 2003) ISBN 0752429132
* Simon James ''The Atlantic Celts : ancient people or modern invention?'' (Llundain: Amgueddfa Brydeinig, 1999) ISBN 0714121657
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|it}}
 
[[Categori:Y Celtiaid| ]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn Ewrop|Celtiaid, Y]]
[[Categori:Hanes Ewrop|Celtiaid, Y]]
[[Categori:Pobloedd hynafol|Celtiaid, Y]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|it}}
 
[[af:Kelte]]