Ffonograff: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 6:
Dyfeisiwyd y ffonograff rhwng Mai a Gorffennaf 1877 wrth i Edison ymchwilio i "ail chwarae" negeseuon telegraff a'i waith ar eu darlledu drwy'r [[ffôn]].<ref>Patrick Feaster, "Speech Acoustics and the Keyboard Telephone: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ''ARSC Journal'' 38:1 (Gwanwyn 2007), 10-43; Oliver Berliner a Patrick Feaster, "Letters to the Editor: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ''ARSC Journal'' 38:2 (Hydref 2007), 226-228.</ref>
 
Mewn sioeau a ffeiriau yn [[Unol Daleithiau America|America]] y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond oddeutu 1895 llwyddodd [[Almaen|Almaenwr]]wr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio sbring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.
[[Delwedd:Edison and phonograph edit1.jpg|bawd|Edison gyda'i ail fersiwn; ffotograff gan Mathew Brady yn [[Washington]], Ebrill 1878]]
Oddeutu 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y ''Gramophone and Typewriter Company''. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed [[Caruso]] yn canu yn [[Yr Eidal]] a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.
Llinell 33:
* [[Crynoddisg]]
 
Daw trwch yr erthygl uchod o erthygl [http://casglwr.org/yrarchif/1canmlyneddorecordio.php CAN MLYNEDD O RECORDIO] gan Ifor Jones yng nghylchgrawn [[Cymdeithas_Bob_OwenCymdeithas Bob Owen|Y Casglwr]], ; mae trwydded ''Creative Commons Attribution 3.0 License'' ar holl erthyglau'r cylchgrawn.
 
[[Categori:Cerddoriaeth Cymru]]
 
 
[[en:Phonograph]]