Shirley Bassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 30 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q234754 (translate me)
newidiadau man using AWB
Llinell 26:
== O'i genedigaeth tan 1960: Ei Llwyddiannau Cynnar ==
 
Ganwyd Bassey yn 182 Stryd Bute, [[Tiger Bay]], Caerdydd i forwr o dad a oedd yn Efik [[Nigeria|Nigeriaidd]]idd a mam o [[Swydd Efrog]]. Ysgarodd ei rhieni pan oedd yn dair oed. Fe'i magwyd yn ardal dosbarth gweithiol y ddinas yn Tiger Bay. Yr ieuengaf o saith o blant, gadawodd Bassey Ysgol Moorland yn 15 oed gan fynd i weithio mewn ffatri a pherfformio mewn clybiau lleol ar y penwythnosau. Yn fuan iawn, trodd yn gantores broffesiynol a chafodd nifer o senglau llwyddiannus tu hwnt a gyrfa a ymestynnodd dros bedwar degawd. Ym 1953, perfformiodd mewn [[sioe gerdd]] o'r enw ''Memories of Jolson'' a oedd yn seiliedig ar fywyd y canwr [[Al Jolson]]. Yna symudodd ymlaen i ''Hot from Harlem'' a barhaodd tan 1954.
 
Erbyn hyn, roedd Bassey wedi cael ei dadrithio gan fyd canu a beichiogodd yn 16 oed gyda'i merch Sharon a dychwelodd i weithio fel gweinyddes yng Nghaerdydd. Ym 1955 fodd bynnag, cafodd ei henw ei grybwyll i [[Michael Sullivan]], asiant o [[Streatham]] ac ail-ddechreuodd ei gyrfa. Pan welodd ef Bassey, penderfynodd fod ganddi'r potensial i fod yn seren. Teithiodd Bassey gan berfformio mewn amryw theatrau tan iddi dderbyn rhan mewn sioe a ddaeth ag enwogrwydd iddi sef sioe'' Al Read Such is Life'' yn Theatre yr Adelphi yn y [[West End Llundain|West End]] yn [[Llundain]]. Tra'n y sioe hwn, cynigiodd Johnny Franz, cynhyrchydd recordiau, gytundeb recordio iddi. Recordiodd Bassey ei record cyntaf o'r enw ''Burn My Candle'' a gafodd ei ryddhau ym mis Chwefror 1956 pan oedd Bassey yn 19 oed yn unig.
Llinell 38:
 
==1980 - 1999==
Trwy gydol y rhan fwyaf o'r [[1980au]], canolbwyntiodd Bassey ar waith [[elusen|elusennol]]nol gan berfformio ambell daith gyngherddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Roedd ei chytundeb gyda EMI-United Artists wedi dod i ben a dechreuodd Bassey yr hyn a gyfeiriodd ato fel 'ymddeoliad-rhannol'. Ym 1982, recordiodd Bassey albwm o'r enw ''[[All by Myself (albwm Shirley Bassey)|All by Myself]]'' a gwnaeth raglen [[teledu|deledu]] arbennig ar gyfer [[Thames Television]] o'r enw ''A Special Lady'' gyda [[Robert Goulet]] yn westai iddi. Ym 1983 recordiodd ddeuawd gydag [[Alain Delon]], "Thought I'd Ring You", a fu'n llwyddiannus yn Ewrop. Bellach roedd Bassey yn recordio tipyn llai ond rhyddhaodd albwm o'i chaneuon mwyaf adnabyddus ym 1984, ''[[I Am What I Am (albwm Shirley Bassey)|I Am What I Am]]'', a berfformiwyd gyda Cherddorfa Simffoni Llundain. Ym 1986, rhyddhaodd sengl a fideo i gefnogi Bwrdd Twristiaeth Llundain, ''There's No Place Like London''. Ym 1987 recordiodd albwm o draciau sain [[James Bond]], ''[[The Bond Collection]]'', ond mae'n debyg ei bod yn anhapus gyda'r canlyniad, ac felly gwrthododd ei ryddhau. (Pum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau ta beth. Aeth Bassey ag achos yn erbyn y cwmni a tynnwyd pob copi na werthwyd yn ôl.)<ref>Bassey v. Icon Entertainment plc (1995) EMLR 596</ref> Ym 1987 hefyd, recordiodd Bassey ei llais ar gyfer yr artistiaid o'r Swistir [[Yello]] ar "[[The Rhythm Divine]]", cân a ysgrifennwyd ar y cyd â'r canwr Albanaidd [[Billy Mackenzie]]. Ym 1989 rhyddhaodd albwm a oedd wedi ei chanu yn ei chyfanrwydd yn Sbaeneg, ''[[La Mujer (albwm Shirley Bassey)|La Mujer]]''. Ar ddiwedd canol y 1980au, roedd Bassey wedi dechrau gweithio gyda hyfforddwr lleisiol, cyn ganwr opera, a dangosodd ei halbwm [[Keep the Music Playing (albwm Shirley Bassey)|Keep the Music Playing]] ym 1991 arddull grand, [[pop operatig]] ar nifer o'r caneuon (a ddylanwadwyd o bosib gan ei halbwm gyda Cherddorfa Symffoni Llundain rai blynyddoedd ynghynt).
 
 
==Recordiau Shirley Bassey==
Llinell 97 ⟶ 96:
*''The Show Must Go On'' (1996)
*''The Birthday Concert'' (1997)
*''Land Of My Fathers''
*''The Remix Album: Diamonds Are Forever'' (2000)
*''The Greatest Hits - This Is My Life'' (2000)