Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Okapi (sgwrs | cyfraniadau)
Osian (sgwrs | cyfraniadau)
safoni iaith
Llinell 187:
 
--[[Defnyddiwr:Okapi|Okapi]] 08:28, 8 Tach 2004 (UTC)
 
== safoni iaith ==
 
helo, dwi'n eitha newydd yma! does gen i ddim llawer o syniade gwych a gwallgo am gyfraniadau i wicipedia (heblaw fy anhygoel [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]]!), ond mae arna i ofn fy mod yn dipyn o ''gramadeg geek'', ac wrth edrych drwy rai o'r erthyglau diddorol sydd yma dwi'n sylwi o dro i dro ar ambell wall sillafu neu damaid o chamthreiglad.
 
fy nghwestiwn i felly yw hyn: ydy hi'n iawn "cywiro" iaith pobl? Dwi'n siwr bod hyn yn digwydd yn y wicipedia Saesneg, ond y broblem efo'r Gymraeg ydy bod pobl yn gallu bod yn llawer mwy sensitif am y peth, a hefyd gan fod y gymuned gymaint yn llai fe allai achosi trwbl - ydw i'n iawn? dwi ddim am wneud i neb deimlo nad yw eu Cymraeg nhw'n ddigon da... neu ydy pobl yn cywiro iaith ei gilydd yma eisoes, pawb yn hapus a.y.b.?