Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
Sefydlwyd '''Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol''' yn 1880 er mwyn cynnal [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru]] yn ŵyl flynyddol. Dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1881|Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful]] yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahan i 1914 a 1940. Daeth gyrfa'r Gymdeithas fel sefydliad i ben yn 1952 pan sefydlwyd [[Llys yr Eisteddfod Genedlaethol]] fel corff llywodraethol yr Eisteddfod.<ref name="Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.</ref>
 
Daeth y sbardun i sefydlu'r Gymdeithas o bapur ar ddiwygio'r Eisteddfod a ddarllenwyd gan [[Hugh Owen]] yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]] yn 1880. Fel canlyniad i ddarlith Hugh Owen, penderfynwyd sefydlu corff newydd - Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol - i lywio'r Eisteddfod a gofynwyd i [[T. Marchant Williams]] fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Bu cyfarfod pwyllgor yn [[Amwythig]] ym Medi 1880 a phendefynwyd trefnu'r cyfarfod cyffredinol cyntaf i baratoi ar gyfer Eisteddfod Merthyr Tudful yn Awst 1881.<ref>Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', yn ''Twf yr Eisteddfod Genedlaethol''.</ref>
 
Prif waith y Gymdeithas oedd hel arian ar gyfer gwobrau'r Eisteddfod, penderfynu ar leoliad yr Eisteddfod bob blwyddyn a threfnu i gael maes a phabell, cynnal [[Gorsedd]], trefnu rhaglen yr Eisteddfod bob blwyddyn a chyhoeddi Trafodion.<ref name="ReferenceA">Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'.</ref>
 
Lluniwyd Rheolau'r Gymdeithas ym [[Bangor|Mangor]] yn 1890. Fel rhan o'r rheolau newydd roedd pob aelod o [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain|Orsedd y Beirdd]] i fod yn aelod llawn o'r Gymdeithas. Ymddengys mai bargen rhwng T. Marchant Williams a [[Hwfa Môn]] oedd hyn a bu cryn anfoddlonrwydd ynglŷn â'r cytundeb am flynyddoedd ar ôl hynny.<ref>Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'.<name="ReferenceA"/ref>
 
Dan reolaeth y Gymdeithas, llwyddwyd i gynnal Eisteddfod yn flynyddol, a hynny bob yn ail yn y De a'r Gogledd (ac eithrio 1914 a 1940). Daeth y Gymdeithas i ben yn 1952. Yn 1937 roedd y Gymdeithas a'r Orsedd wedi penderfynu i gyfuno'r ddau gorff i greu Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd yn 1952 a sefydlodd Lys yr Eisteddfod Genedlaethol fel corff llywodraethol yr Eisteddfod.<ref>'' name="Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 15:
*[[Idris Foster]] (gol.), ''Twf yr Eisteddfod'' (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968). Tair darlith gan Helen Ramage, [[Melville Richards]] a [[Frank Price Jones]].
 
[[Categori:Eisteddfod Genedlaethol Cymru|* ]]
 
[[Categori:Eisteddfod Genedlaethol Cymru|* ]]
[[Categori:Sefydliadau 1880]]