Iselder ysbryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Mae '''iselder ysbryd''' yn [[afiechyd meddwl]] ble mae'r claf yn teimlo'n isel a di-hwyl; yn aml, mae'r afiechyd hwn hefyd yn gwneud iddo deimlo'n wael a dihyder, gan golli diddordeb yn y pethau sydd, fel arfer, yn ei gyffroi.
 
Yn 1980 gwahaniaethodd Cymdeithas Seiciatreg America ("American Psychiatric Association") rhwng iselder ysbryd dros dro (sef ''mental depression'') ac iselder ysbryd dwys (Sa: ''Major depressive disorder'') yn eu cyfrol "Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-III) Classification". Mae iselder ysbryd dwys yn medru analluogi, neu dynnu'r gallu arferol i gyflawni pethau oddi wrth y claf. Gall hyn effeithio teulu'r claf yn drychinebus, a'i waith neu addysg, ei gwsg, yr hyn mae'n ei fwyta a'i iechyd yn gyffredinol. Yn yr [[Unol Daleithiau]], mae 3.4% o'r bobl hynny sydd gan iselder ysbryd dwys yn cyflawni [[hunanladdiad]] ac mae gan 60% o'r bobl hynny sy'n cyflawni hunanladdiad iselder ysbryd ar ryw raddfa. Mae sawl astudiaeth wyddonol <ref> Gweler(gweler "Scientific articles" yn http://www.antipesticide.net </ref>) wedi dod o hyd cydberthyniadau ystadegol rhwng iselder a rhai plaladdwyr amaethyddol.
 
==Triniaeth==