Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
newidiadau man using AWB
Llinell 9:
===Oes y Seintiau===
{{Prif|Oes y Seintiau yng Nghymru}}
[[Delwedd:Jesus_Chapel_St_DavidJesus Chapel St David.jpg|150px|bawd|[[Dewi Sant]]]]
Daeth [[Garmon]] (''Germanus'') o [[Auxerre]] i Brydain yn [[429]] i ymladd heresi Pelagius. Ymddengys fod y Gristnogaeth ar ei chryfaf yn ne-ddwyrain Cymru yr adeg honno, gyda Caerleon yn ganolbwynt. Ond er bod gwreiddiau Cristnogaeth yng Nghymru yn gorwedd yn y byd Rhufeinig, fel yn achos [[Iwerddon]] datblygodd Cymru ei ffurf arbennig o Gristnogaeth sy'n perthyn i Gristnogaeth y Celtiaid. Un o nodweddion y Gristnogaeth honno yw'r cyfnod a elwir yn [[Oes y Seintiau]]. Teithiau cenhadon ac addysgwyr trwy Gymru a rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd cynnar eraill, yn arbennig Iwerddon (cysylltir [[Sant Padrig]] â Chymru), [[Cernyw]] a [[Llydaw]]. Trwy'r [[Hen Ogledd]] roedd yna gysylltiad cryf â'r [[Alban]] hefyd ([[Cyndeyrn]], nawddsant [[Glasgow]], a sefydlodd [[esgobaeth Llanelwy]] yn ôl traddodiad). Y pwysicaf o'r seintiau cynnar hyn oedd [[Dewi Sant]], ond dim ond yn ddiweddarach y daeth yn [[nawddsant]] Cymru ac mae'n bwysig cofio fod nifer o "seintiau" eraill yn weithgar hefyd, fel [[Padarn]], [[Illtud]], [[Seiriol]], [[Teilo]] a [[Dyfrig]], er enghraifft. Sefydlasant nifer o [[eglwys]]i, [[clas]]au (mynachlogydd cynnar) a chanolfannau dysg fel [[Llanilltud Fawr]].
 
Llinell 31:
Gwlad dlawd ar gyrion 'nerthoedd mawr y Diwygiad Protestannaidd' oedd Cymru heb lawer o'i phobl wedi clywed nac arfer ac athrawiaethau mawr diwygwyr megis [[Martin Luther|Luther]], [[Zwingli]] a [[John Calvin|Chalfin]]. Llais unig oedd un John Penry ac nid tan yr 1630au y daethpwyd i werthfawrogi ei alwad yn fwy cyffredinol. Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn ôl credo'r [[Apostol Paul]], [[Credo Nicea]] a'r diwygiwr Calfin – hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gwŷr, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd [[Walter Cradoc]], [[John Myles]] a [[Vavasor Powell]]. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol. Ond haf bach Mihangel yn unig oedd cyfnod Deddf y Taenu oblegid, fel y dywed Geraint H. Jenkins; 'Nychwyd y delfryd gan naws Seisnig ac estron y Werinlywodraeth' yn ystod yr Oruchafiaeth. Yn dilyn cwymp Llywodraeth y Piwritaniaid a'r Gweriniaethwyr yn 1660 ac ail gipio grym gan y Brenhinwyr a'r Eglwyswyr fe wynebodd Anghydffurfwyr flynyddoedd caled o erlid yn ystod blynyddoedd 'yr Erlid Mawr.' Cadw'n ffyddlon a pharhau i dystio yn wyneb erledigaeth fu hanes yr ymneilltuwyr hyd pasio'r Ddeddf Goddefiad yn 1689. Dyna oedd agor cyfle i'r ymneilltuwyr, unwaith yn rhagor, i ledu eu cenhadaeth a chwyddo rhengoedd heb rwystr nag erlid.<ref>Geraint H. Jenkins: ''Dr Thomas Richards: Hanesydd Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth Gymreig'' (1995)</ref>
 
O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu’r capeli Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, Y Fenni, ym 1690, ond parhâi’r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y ddeunawfed ganrif. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academïau preifat. Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni welwyd eto lacio ar y cyfyngiadau oedd ar Ymneilltuwyr fel dinasyddion, a chafwyd enghreifftiau pellach o erlid. O ganlyniad, daeth yr Annibynwyr yn bobl ofalus a gwyliadwrus, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion ond dim ond ychydig o egni efengylaidd. Fel y dywed R. Tudur Jones, ‘caiff dyn yr argraff mai pobl dda oedd Annibynwyr y ddeunawfed ganrif, pobl dawel eu rhodiad, uchel eu safonau moesol, deallus eu hamgyffrediad o wirioneddau’r Ffydd ac yn ymroi i gyfoethogi a dyfnhau eu bywyd ysbrydol. . . Cadw’r fflam ynghyn mewn dyddiau tywyll a merfaidd oedd eu braint hwy, ac ni fuont yn anffyddlon i’r dasg honno’.<ref name="annibynwyr.org">Codwyd, golygwyd ac yn ddyfynedig o http://www.annibynwyr.org/print/hanes.html</ref>
 
==Ymneilltuaeth a thwf y capeli==
Llinell 51:
Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i’r eglwysi. Yn un peth, ’roedd Cymru yn wynebu cyfnod o newid ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen. I filoedd o Gymry, chwalwyd yr hen ffordd o fyw gan ddiwydiannu a threfoli. Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y Beibl o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth ynglŷn â Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a’r Atgyfodiad.
 
Nid o’r tu allan y daeth pob bygythiad i Ymneulltuaeth yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o’u statws a’u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru. <ref>Codwyd, golygwyd ac yn ddyfynedig o http://www.name="annibynwyr.org"/print/hanes.html </ref>
 
==Datgysylltu'r Eglwys Anglicanidd==