Cylch yr Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegu ychydig
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
Grŵp pwyso sy'n ceisio "sicrhau bod y cyfryngau, yn hytrach na thanseilio a dinistrio’r iaith ([[Gymraeg]]), yn chwarae eu rhan i’w gwneud yn iaith fyw fodern"<ref name="Y Faner Newydd">[http://www.fanernewydd.net/cefndarll.htm Y Faner Newydd]</ref> yw '''Cylch yr Iaith'''.
 
Y symbylaeth i sefydlu'r Cylch oedd yr hyn a alwant yn ddirywiad safon y Gymraeg ar y cyfryngau, ac yn neillduol ar [[Radio Cymru]] ac [[S4C]]. Sefydlwyd Cylch yr Iaith yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a ddaeth a chynrychiolwyr o sawl mudiad arall ynghŷd i drafod y sefyllfa. Dadl y Cylch yw bod agwedd yr awdurdodau sy'n rhedeg y prif gyfryngau Cymraeg yn "tanseilio a dinistrio’r iaith" yn hytrach na'i hyrwyddo a'i hesblygu yn iaith fyw fodern. Credant fod yr awdurdodau teledu a radio Cymraeg yng Nghymru yn meddwl mwy am yr angen i ddenu gwylwyr a gwrandawyr newydd (Saesneg) nag am eu dyletswydd statudol i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg a bod yr agwedd honno yn dadwneud gwaith athrawon a rhieni sy'n ceisio trosglwyddo'r iaith fel y dylai hi gael ei siarad i blant a phobl ifainc.
 
Canolbwynt ymdrechion y Cylch i godi safonau ar Radio Cymru ac S4C yw'r ymgyrch a gychwynwyd gan y Dr [[Meredydd Evans]] i wrthod talu [[Trwydded Radio a Theledu]] hyd nes y byddent "yn gyrff atebol yn gwneud eu priod waith sef darlledu yn yr iaith Gymraeg a hynny mewn Cymraeg cyfoes, cywir".<ref>[http://www.fanernewydd.net/cefndarll.htm name="Y Faner Newydd]<"/ref> Ar 26 Mai 2011, carcharwyd Geraint Jones o [[Caernarfon|Gaernarfon]] am wrthod talu diryw o £330 a gafodd am beidio prynu trwydded deledu. Dywedodd y gallai dalu'r ddirwy ond nad oedd yn bwriadu gwneud hynny fel protest yn erbyn "haerllugrwydd a Seisnigrwydd BBC Radio Cymru".<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9490000/newsid_9497600/9497685.stm Carchar i aelod o Gylch yr Iaith] Gwefan y BBC. 26 Mai 2011. Adalwyd ar 28 Mai 2011</ref>
 
Mae Cylch yr Iaith yn cydweithredu gyda mudiadau eraill, fel [[Cymdeithas yr Iaith]].
Llinell 11:
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn Cymru}}
 
[[Categori:Mudiadau iaith]]
[[Categori:Cymraeg]]
{{eginyn Cymru}}