Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymraeg ysgrifenedig"

Lleihawyd o 28 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
newidiadau man using AWB
B
(newidiadau man using AWB)
{{Cymraeg}}
[[Delwedd:Beddfaen_Cymraeg_oBeddfaen Cymraeg o'r_8fed_ganrifr 8fed ganrif.jpg|left|bawd|[[Tywyn#Beddfaen_Hen_Gymraeg|Arysgrif Hen Gymraeg]] ar faen yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, tua 700]]
Aethpwyd ati i '''ysgrifennu Cymraeg''' yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan, [[Tywyn]] y ceir y geiriau [[Cymraeg]] cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.<ref name=DatblygiadyrIaithGymraeg > Henry Lewis, ''Datblygiad yr Iaith Gymraeg'' (Prifysgol Cymru, 1931) </ref>
 
==Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig==
Dechreuwyd ar safoni’r iaith ysgrifenedig gan y beirdd.<ref name= OrgraffyrIaithGymraeg > ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'', 1928, Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru </ref> Roedd y rhain yn teithio o [[llys|lys]] i lys trwy ardaloedd â thafodieithoedd amrywiol ynddynt ac yn cwrdd â’i gilydd mewn [[eisteddfod|eisteddfodau]]au. Ceisient ddefnyddio geiriau cyffredin i’r holl dafodieithoedd fel bod eu gwaith yn ddealladwy gan bawb. Erbyn adeg beirdd yr Oesoedd Canol gellir dweud bod gan y Gymraeg iaith lenyddol safonol o ran geirfa.
 
Ond nid oedd unrhyw gysondeb yn sillafiad y geiriau; e.e. dynodai '''d''' y seiniau sydd heddiw yn cael eu sillafu yn '''d''' ac yn '''dd'''. Ar gyfer y sain a sillefir heddiw yn '''f''' defnyddid '''f''' ar ddiwedd gair, '''u''' neu '''v''' ar ei ddechrau ac '''u''', '''v''', '''fu''', '''fv''', neu '''f''' yn ei ganol. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y [[cynghanedd|gynghanedd gaeth]] wedi llawn ddatblygu ac yn gofyn am gyfatebiaeth seiniau. Roedd hyn yn sbardun i sefydlu iaith farddol safonol a’r symbolau am y seiniau yn fwy diamwys erbyn y bymthegfed ganrif. Yn wir, roedd orgraff y Gymraeg y pryd hynny yn fwy unffurf nac aml i iaith arall yn Ewrop.
 
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg ceisiodd gramadegwyr ddyfeisio cyfundrefn lythrennau boddhaol.<ref name=BeibliGymru > ''Beibl i Gymru'', Prys Morgan (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988) </ref> Roedd [[William Salesbury]] wedi mynnu dyfeisio orgraff ei hunan a oedd i fod i ddangos tarddiad gair a'i gysylltiad â'r Lladin yn hytrach na dangos ynganiad y gair. Roedd wedi defnyddio'r orgraff hon yn ei gyfieithiad o'r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn [[1567]]. Ond ni phrofodd y cyfieithiad yn un poblogaidd yn bennaf gan fod yr orgraff yn ei gwneud yn anodd darllen y Beibl yn gyhoeddus.
 
Gwahanol iawn oedd [[Beibl 1588|Beibl]] y Dr [[Esgob William Morgan|William Morgan]] a gyhoeddwyd yn [[1588]] er mai [[y Beibl|Testament Newydd]] a Llyfr Gweddi 1567 Salesbury a'i gydweithwyr oedd sail cyfieithiad William Morgan yntau o'r Testament Newydd a'r Salmau. Defnyddiodd ef orgraff yn seiliedig ar orgraff lenyddol draddodiadol y canu caeth, oedd yn cyfleu ynganiad gair. Ond sillafai rai geiriau yn ôl arfer canu gwerin ac iaith lafar gyfoes. Cyhoeddwyd diwygiad i’r Beibl hwn yn [[1620]] a ddilynai’r un patrwm llythrennu ond a ddefnyddiai eiriau llenyddol yn hytrach na geiriau tafodieithol Beibl Dr Morgan.
Cafwyd ymgais yn y 1960au i ddyfeisio ffurf ar Gymraeg lafar safonol y gellid ei harfer yn yr ysgolion a thu hwnt ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg fel ei gilydd. Ceisiwyd hefyd cael hyd i ffordd safonol o ysgrifennu'r iaith lafar newydd hon. Ysgogwyd yr ymgais hwn gan ddarlith radio Ifor Williams yn 1960.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Yr Academi Gymreig, 1986)</ref> Pontio'r gagendor rhwng Cymraeg llenyddol a llafar ar gyfer myfyrwyr y Gymraeg oedd byrdwn y ddarlith. Wedi gwaith ymchwil gan addysgwyr cyhoeddwyd argymhellion yn y llyfryn ''Cymraeg Byw'' (1964). Bu croeso brwd i Gymraeg byw gan lawer o athrawon ail iaith, ond mynnai eraill y dylid addysgu'r iaith lenyddol yn unig ac eraill eto bod gwell ysgrifennu ffurfiau mwy tafodieithol fyth na'r hyn a argymhellwyd. Ni fabwysiadwyd Cymraeg Byw yn gyffredinol. Ond y mae ei ôl i'w weld yn yr ysgrifennu mwy llafar a thafodieithol a arferir erbyn hyn ar gyfer deialog mewn dramâu a ffuglen.
 
Yn sgil Cymraeg Byw datblygwyd dull mwy anffurfiol na Chymraeg lenyddol draddodiadol o ysgrifennu'r Gymraeg, mewn arddull a ddefnyddiai ffurfiau gramadegol yr iaith lafar a geirfa Cymraeg safonol. Cyfaddawd rhwng iaith lafar a Chymraeg ysgrifenedig ffurfiol ydyw. Gelwir yr arddull hon yn Gymraeg Cyfoes neu yn Gymraeg llai ffurfiol. Ymateb ydoedd i'r angen newydd am gyfathrebu ar bapur â'r cyhoedd nad oeddynt i gyd wedi arfer â darllen Cymraeg llenyddol tu allan i'r capel, yn sgil y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelir Cymraeg Cyfoes mewn taflenni gwybodaeth, erthyglau papur newydd ac mewn nofelau. Rhai o nodweddion iaith llai ffurfiol yw defnyddio [[rhagenw|rhagenwau]]au wedi [[berf]] neu [[arddodiad]], defnyddio ffurfiau cwmpasog y ferf, gollwng cytsain olaf rhai arddodiaid a berfau, byrhau '''nid''' i '''d''' yn y ffurf 'dydwi ddim' neu 'dwyf i ddim'.
 
==Yr orgraff gyfoes==
Defnyddir arwyddnodau ychwanegol wrth ysgrifennu geiriau fel a ganlyn:
 
*hirnod (neu acen grom) '''ˆ''' ar lafariad i ddynodi llafariad hir ei sain, o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys defnyddio'r hirnod:
**i wahaniaethu rhwng geiriau â'r un sillafiad megis '''ôd/od''', '''tŵr/twr''', '''nâd/nad''', '''(tŷ)dŷ/dy''', '''gŵyr/gwŷr'''.
**ar '''a''', '''e''', '''o''', '''w''', '''y''' hir o flaen '''l''', '''n''', '''r''' megis yn '''pêl''', '''ôl''', '''ynglŷn''', '''cytûn'''.
**o flaen '''–nt''' unsillafog lle bo'r llafariad yn hir megis '''gwnânt''', '''bônt''', a'r un modd o flaen '''–nt''' neu '''–m''' mewn sillaf olaf acennog megis '''nesânt''', '''canfûm'''.
*didolnod '''ï''' i ddynodi '''i''' acennog megis yn '''copïo''', '''cwmnïau''', '''saernïaeth''', rhag ei chamgymryd am '''i''' gytseiniol. Ceir eithriadau i'r rheol hon ymysg rhai geiriau dwy sillaf megis '''dianc''', '''diod''', '''priod'''. Defnyddir y didolnod ˙˙ hefyd pan ddilyn dwy lafariad ei gilydd i ddangos nad deusain ydynt megis yn '''glöyn''', '''gloÿnnod''', '''glanhawr''', '''tröedigaeth'''. Ar y llafariad acennog y dodir y didolnod neu ar y llafariad gyntaf pan nad oes gwahaniaeth acen rhwng y ddwy lafariad.
*acen ddyrchafedig '''΄''' yn gyffredinol i ddynodi lle'r acen pan ddisgyn ar fan anarferol gan gynnwys:
**ar lafariad fer acennog mewn sill olaf acennog neu pan ddigwydd amwyster megis '''ffárwel''', '''ffarwél'''.
**pan fo '''–áu''' derfynol yn acennog megis '''iacháu''', '''nacáu'''.
*acen drom (neu ddisgynedig) ̀ i ddynodi llafariad fer, gan amlaf mewn geiriau benthyg megis '''iòd''', ac i wahaniaethu rhwng geiriau â'r un sillafiad megis '''bỳs/bys''', '''mẁg/mwg'''.
417,732

golygiad