Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
didolnod using AWB |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 4:
Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys [[Tywyn]], Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y chweched ganrif, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y chweched ganrif.
Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r Gymraeg.
Mae ieithyddion wedi dyfalu y bu i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol, sef y 'cyflyrau' a oedd yn nodweddu ieithoedd [[Indo-Ewropeg Gorllewinol]] yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis '''dwylo'''. O ran cenedl, dim ond gwrywaidd a benywaidd a erys yn Gymraeg.
Llinell 12:
====Colli cyflyrau====
Roedd [[cyflyrau]] goddrychol, gwrthrychol a genidol i enwau Brythoneg, a'r rheini'n wahanol ar gyfer enwau unigol, deuol a lluosog, e.e. y Frythoneg am yr enw 'bardd' yw <ref
*Dynoda '''i̯''' ac '''w̯''' i-gytsain ac w-gytsain fel y'i ceir yn '''iach''', y '''wasg'''
*Dynoda '''ˉ''' ar ben llafariad lafariad hir fel y'i ceir yn '''haf''', '''hedd''', '''gof''', '''hir''', '''dyn'''
|