Gŵyl Galan Awst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: es:Lugnasad
→‎Lugnasad: newidiadau man using AWB
Llinell 4:
 
== Lugnasad ==
Yng Ngwyddeleg, adnabyddir Gŵyl Galan Awst fel ''Lughnasadh''. Fe'i chysylltir â'r duw [[Lleu]] neu Lug/[[Lugh]] (yn enwedig ''[[Lug mac Ethnenn]]''). Enw'r [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]] ar [[Lyons]] ([[Ffrainc]]) oedd Lugudunum (''Caer Lleu'') a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl ''Lughnasadh'' tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac [[amaethyddiaeth]] a chyneuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.<ref name="ReferenceA">Gwyn Thomas, ''Duwiau'r Celtiaid'', Llafar Gwlad 24.</ref>
 
Dynodai Lugnasad ddechrau tymor y [[cynhaeaf]] ac fe'i dethlid gyda gwleddoedd mawr cyhoeddus. Yn ôl y ''[[Sanas Chormaic]]'' (''Gloseg Cormac'') gan yr esgob [[Cormac]], cafodd Lugnasad ei sefydlu gan Lug mac Ethnenn ei hun yn y cyfnod [[cynhanes]]yddol. Cydnabyddir fod yr enw yn tarddu o enw Lugh.<ref>Gwyn Thomas, ''Duwiau'r Celtiaid'', Llafar Gwlad 24.<name="ReferenceA"/ref>
 
== Lammas ==