Whitehorse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|'''Whitehorse''' '''Whitehorse''' yw prifddinas tiriogaeth Yukon, yng ngogledd-orllewin Canada. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,1... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 23:29, 4 Mai 2007
Whitehorse yw prifddinas tiriogaeth Yukon, yng ngogledd-orllewin Canada. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,151 (2006), sy'n cyfrif am dros 75% o boblogaeth Yukon.
Mae'r ddinas ar garreg filltir 918 ar Briffordd Alaska ac ar un adeg roedd yn derminws i Reilffordd White Pass a Yukon o Skagway, Alaska. Fel pen eithaf trafnidiaeth ar Afon Yukon, roedd y ddinas yn ganolfan bwysig yn Rhuthr Aur Klondike ar ddiwedd y 1880au. Mae'n brifddinas y diriogaeth er 1953, pan gafodd ei symud o Dawson City ar ôl adeiladu Priffordd Klondike. Enwir y ddinas ar ôl ffrydiau (rapids) White Horse.