Pen yr Ole Wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Put the coords into the infobox
newidiadau man using AWB
Llinell 22:
Mae '''Pen yr Ole Wen''' yn fynydd yn y [[Carneddau]] yn [[Eryri]]. Mae'r ffin rhwng [[Gwynedd]] a [[Conwy (sir)|Sir Conwy]] yn mynd tros y copa. Pen yr Ole Wen yw'r pellaf i'r de-orllewin o fynyddoedd y Carneddau. Wrth ei droed mae [[Llyn Ogwen]] a ffordd yr [[A5]], a'r ochr arall i'r llyn mae mynyddoedd y [[Glyderau]] yn dechrau. I'r gogledd-ddwyrain mae'r nesaf o gadwyn y Carneddau, [[Carnedd Dafydd]].
 
Fel y rhan fwyaf o fynyddoedd y Carneddau, mae'n fynydd mawr, moel. Gellir ei ddringo o ochr gogleddol Llyn Ogwen, gan ddilyn llwybr sy'n cychwyn gerllaw'r fan lle mae [[Afon Ogwen]] yn gadael y llyn. Mae'r llwybr yma yn eithriadol o serth, gyda tua 675 medr o dringo mewn tua 1.5  km, graddfa o bron 1 mewn 2 ar gyfartaledd. Dull ychydig yn haws yw cychwyn ger hen ffermdy Tal-y-Llyn Ogwen ger pen dwyreiniol y llyn, a dilyn [[Afon Lloer]] i fyny'r llethrau nes daw llyn [[Ffynnon Lloer]] i'r golwg. O'r fan hyn mae llwybr yn arwain i'r chwith i fyny'r grib i gopa Pen yr Ole Wen. Gellir hefyd ei ddringo trwy ddringo un o'r copaon eraill yn y Carneddau a cherdded ar hyd y grib.
 
==Gweler hefyd==