Benjamin Franklin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn gosod File:Benjamin_Franklin_by_Joseph_Siffrein_Duplessis.jpg yn lle Benjamin_Franklin_by_Joseph_Siffred_Duplessis.jpg (gan Didym achos: File renamed: mystake on first name).
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Benjamin_Franklin_by_Joseph_Siffrein_DuplessisBenjamin Franklin by Joseph Siffrein Duplessis.jpg|bawd|dde|Benjamin Franklin gan [[Jospeh Siffred Duplessis]]]]
Roedd '''Benjamin Franklin''' (17 Ionawr, 1706 [[Hen Arddull|H.A.]] 6 Ionawr, 1705 – 17 Ebrill, 1790) yn un o sefydlwyr [[Unol Daleithiau|Unol Daleithiau'r America]]. Roedd yn bolymath cydnabyddedig, ac yn argraffwr ac awdur blaenllaw, yn ogystal â bod yn ddychanwr, sylwebydd gwleidyddol, gwleidydd, gwyddonydd, dyfeisiwr a diplomat. Fel gwyddonydd, roedd yn ffigwr blaenllaw yn hanes [[ffiseg]] am ei ddarganfyddiadau a damcaniaethau ynglŷn â [[trydan|thrydan]]. Dyfeisiodd rhoden luched, deuffocal, y stôf Franklin a'r gwydr 'armonica'. Ef sefydlodd y llyfrgell fenthyg gyntaf yn yr Unol Daleithiau a'r gwasanaeth tân cyntaf [[Pennsylvania]]. Roedd yn un o genfogwyr cynharaf undod ymerodraethol, ac fel sylwebydd ac ymgyrchydd gwleidyddol, cefnogodd y syniad o'r genedl Americanaidd. Fel diplomat yn ystod y [[Rhyfel Annibyniaeth America|Chwyldro Americanaidd]], sicrhaodd gefnogaeth [[Ffrainc]] a chynorthwyodd yn y broses o wneud yr Unol Daleithiau'n annibynnol.
 
Ystyrir Franklin fel un o brif sylfaenwyr y gwerthoedd craidd a'r cymeriad sydd gan yr Unol Daleithiau heddiw. Roedd ganddo werthoedd Piwritanaidd o waith caled, addysg, naws gymdeithasol, sefydliadau hunan-lywodraethol a'i wrthwynebiad i awdurdodaeth gwleidyddol a chrefyddol am y credai mai gwyddoniaeth ac agweddau goddefol oedd y ffordd i hapusrwydd. Yng ngeiriau [[Henry Steele Commager]], "Yng nghymeriad Franklin, daeth gwerthoedd Piwritanaidd heb y gwendidau i'r amlwg, y Goleudigaeth heb ei wrês."<ref>{{eicon en}} Isaacson 2003, td. 491 </ref> I Walter Isaacson, golygai hyn mai Franklin oedd, "yr Americanwr mwyaf medrus o'i gyfnod a'r mwyaf dylanwadol o ran llunio'r math o gymdeithas y byddai America yn datblygu i fod."<ref>{{eicon en}} Isaacson 2003, td. 492 </ref>
 
Daeth Franklin yn [[golygu|olygydd]] [[papur newydd]], argraffwr a masnachwr yn [[Philadelphia]]. Gwnaeth lawer iawn o arian drwy ysgrifennu a chyhoeddu ''[[Almanac Richard Dlawd]]'' a'r ''[[Pennsylvania Gazette]]''. Ymddiddorai Franklin mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a chafodd gyhoeddusrwydd rhyngwladol am ei arbrofion enwog. Chwaraeodd rôl flaenllaw yn sefydlu Prifysgol Pennsylvania a Choleg Franklin & Marshall College a chaoff ei ethol yn lywydd cyntaf y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd. Ystyriwyd Franklin yn arwr cenedlaethol pan arweiniodd ymgyrch i'r Senedd er mwyn gwaredu'r Ddeddf Stamp amhoblogaidd. Fel diplomat dawnus, cawsai ei edmygu gan y Ffrancwyr pan oedd yn weinidog Americanaidd i [[Paris|Baris]] ac roedd yn ffigwr amlwg yn natblygiad perthynas Ffrainc a'r Unol Daleithiau. O 1775 tan 1776, Franklin oedd y Postfeistr Cyffredinol o dan y Gynghrair Cyfandirol ac o 1785 tan 1788 ef oedd Llywydd Uwch Gyngor arbennig Pennsylvania. Tua diwedd ei fywyd, daeth yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn [[caethwasiaeth]].