Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tsieceg"

Ychwanegwyd 1,315 beit ,  6 blynedd yn ôl
ychwanegu
(cat)
(ychwanegu)
}}
 
[[Iaith]] [[Ieithoedd Slafeg|Slafig Orllewinol]] sy'n iaith frodorol [[y Weriniaeth Tsiec]] yw '''Tsieceg''' a gaiff ei siarad ledled y byd. Galwyd yr hen Tsieceg yn '''Fohemeg''' hyd at y 19eg ganrif. Mae'n hynod o debyg i'r [[Slofaceg]] ac i raddau llai i ieithoedd Slafeg eraill.
 
==Statws swyddogol==
Caiff y Tsieceg ei siarad gan bron i bawb o drigolion y Weriniaeth Tsiec a chaiff ei defnyddio mewn dogfennau llysoedd barn ac awdurdodau'r wladwriaeth, gan gynnwys awdurdodau cyllid ac arian. Caiff hefyd ei defnyddio mewn achosion swyddogol yn Slofacia; yn yr un modd caniateir defnyddio'r Slofaceg oddi fewn i awdurdodau ariannol y Weriniaeth Tsiec. Mae yma gryn blethu rhwng y ddwy wladwriaeth o ran ieithoedd - sy'n deillio'n ôl i'r hen [[Tsiecoislofacia]] a chyn hynny. Mae trigolion y ddwy wladwriaeth yn deall iaith ei gilydd.
 
==Yr enw==
Mae'r gair ''čeština'' "Tsiec" (neu "Czech") yn tarddu o hen lwyth Slafig o'r un enw (''Čech'', lluosog ''Češi''; hen ffurf: ''Čechové'') a arferai fyw yng ngahanol Bohemia ac a oedd yn gyfrifol am uno ei chymdogion Slafaidd ac Almaenig yn nheyrnasiad y brenhinllyn (''Přemyslovci''). Yn ôl rhai, mae'n tarddu o berson o'r enw Čech, a fu'n gyfrifol am symud y llwyth i'r tiroedd presenol. Daw'r gair Bohemia o lwyth Celtaidd y [[Boii]] a wladychai'r rhan hon o [[Ewrop]] cyn hyn - ers y 4edd ganrif CC. Benthyciwyd y sillafiad Saesneg
("Czeck") o'r [[Pwyleg]].
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}