Griffith Jones, Llanddowror: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Brodor o [[Pen-boyr|Ben-Boyr]], [[Sir Gaerfyrddin]] a gafodd ei addysg yn [[Ysgol Ramadeg Caerfyrddin]] a'i ordeinio ym [[1708]]. Ym [[1716]] cafodd reithoriaeth ym mhentref [[Llanddowror]]. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r [[Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]].
 
Ym [[1731]] dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen at ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i fynychu'r ysgolion. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r [[Beibl 1588|Beibl Cymraeg]] a thrwy adrodd [[Catecism|Catecism Eglwys Loegr]]. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan [[Bridget Bevan]], merch y dyngarwr, [[John Vaughan]] (1633-1772) a'i chysylltiadau cefnog yn [[Llundain]] a [[Caerfaddon|ChaearfaddonChaerfaddon]]. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, '''Welsh Piety'''; ynddynt y byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian. <ref>{{cite book|author=Davies, J.|title=Hanes Cymru|publisher=Penguin Books|location= London|year=1992|isbn=0-14-012570-1}}</ref> Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf [[llythrennedd|llythrennog]] y byd.
 
Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng [[Cymru|Nghymru]] cyn hynny ers [[diddymu'r mynachlogydd]].