Hywel fab Emyr Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Hywel fab Emyr Llydaw''' oedd un o gydymdeithion pennaf Arthur yn ôl traddodiadau cynnar Cymru. Roedd yn fab i Emyr Llydaw, brenin Llydaw. Yn ôl [[Sieffre o Fyn...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:49, 8 Mai 2007

Hywel fab Emyr Llydaw oedd un o gydymdeithion pennaf Arthur yn ôl traddodiadau cynnar Cymru. Roedd yn fab i Emyr Llydaw, brenin Llydaw.

Yn ôl Sieffre o Fynwy yn yr Historia Regum Britanniae roedd Hywel yn gyfaill i Arthur gydol ei oes. Mae testun rhannol diweddarach Genedigaeth Arthur yn gwneud Gwyar, chwaer Arthur a mam Gwalchmai ap Gwyar, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel, ond ni cheir sôn am hynny yn y ffynonellau cynnar, dim ond cyfeirio ato fel nai fab chwaer Arthur (Brut Dingestow).

Ceir cyfeiriadau at Hywel yn llyfr Sieffre (Hoel yn y Lladin wreiddiol, 'Hywel' yn y fersiynau Cymraeg), yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy, yn y rhamantau Geraint fab Erbin a Peredur, ac mewn sawl cerdd o waith y Gogynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr.

Ffynhonnell

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991). Tud. 407-8.