Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hywel fab Emyr Llydaw"

Ychwanegwyd 5 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: '''Hywel fab Emyr Llydaw''' oedd un o gydymdeithion pennaf Arthur yn ôl traddodiadau cynnar Cymru. Roedd yn fab i Emyr Llydaw, brenin Llydaw. Yn ôl [[Sieffre o Fyn...)
 
BNo edit summary
'''Hywel fab Emyr Llydaw''' oedd un o gydymdeithion pennaf [[Arthur]] yn ôl traddodiadau cynnar [[Cymru]]. Roedd yn fab i [[Emyr Llydaw]], brenin [[Llydaw]].
 
Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yn yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' roedd Hywel yn gyfaill i Arthur gydol ei oes. Mae'r testun rhannolanghyflawn diweddarach ''Genedigaeth Arthur'' yn gwneud [[Gwyar]], chwaer Arthur a mam [[Gwalchmai ap Gwyar]], yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel, ond ni cheir sôn am hynny yn y ffynonellau cynnar, dim ond cyfeirio ato fel ''nai fab chwaer Arthur'' (''[[Brut Dingestow]]'').
 
Ceir cyfeiriadau at Hywel yn llyfr Sieffre (''Hoel'' yn y [[Lladin]] wreiddiol, 'Hywel' yn y fersiynau [[Cymraeg]]), yn y [[chwedl]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'', yn y [[Y Tair Rhamant|rhamantau]] ''[[Geraint fab Erbin]]'' a ''[[Peredur]]'', ac mewn sawl cerdd o waith y [[Gogynfeirdd]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]].