Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Awstin, archesgob Caergaint"

Ychwanegwyd 18 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Yn ôl traddodiad, gwelodd y [[Pab Grigor I]] gaethweision ifainc o [[Eingl-Sacsoniaid]] mewn marchnad [[caethwasaeth|caethweision]] yn [[Rhufain]] a phenderfynodd anfon [[cenhadwr]] i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn [[Cristnogaeth|Gristnogion]]. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.
 
Pan gyrhaeddodd Awstin a deugain o fynachod dde Prydain, gan lanio yn [[Thanet]], cawsant groeso twymgalon gan y brenin [[Ethelbert o Gaint|Ethelbert]], brenin [[Caint]], am fod ei wraig [[Bertha]] eisoes yn Gristion. Yn ogystal â throi'r brenin yn Gristion dywedir iddo [[bedydd|fedyddio]] mil o bobl yn [[Afon Swale]]. Yn [[597]] aeth i [[Arles]], [[Ffrainc]], lle cafodd ei gysegru'n [[archesgob]] yr Eingl-Sacsoniaid.
 
Ond llai twymgalon oedd ei groeso gan y [[Brythoniaid]] Cristnogol, er iddo ceisio perswadio eu harweinyddion Cristnogol, mewn [[synod]] yn [[Aust]] ar lannau [[Afon Hafren]], i dderbyn awdurdod [[Eglwys Rufain]]. Doedd y [[Cymry]] a Brythoniaid [[Cernyw]] ddim yn barod i ildio eu hannibyniaeth mewn materion ysbrydol, yn arbennig gan fod Awstin yn ceisio sefydlu goruchafiaeth Caergaint ar Brydain gyfan.