Hywel fab Emyr Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhyngwici Saesneg
chwaneg
Llinell 1:
'''Hywel fab Emyr Llydaw''' oedd un o gydymdeithion pennaf [[Arthur]] yn ôl traddodiadau cynnar [[Cymru]]. Roedd yn fab i [[Emyr Llydaw]], brenin [[Llydaw]].
 
===Hywel===
Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yn yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' roedd Hywel yn gyfaill i Arthur gydol ei oes. Mae'r testun anghyflawn diweddarach ''Genedigaeth Arthur'' yn gwneud [[Gwyar]], chwaer Arthur a mam [[Gwalchmai ap Gwyar]], yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel, ond ni cheir sôn am hynny yn y ffynonellau cynnar, dim ond cyfeirio ato fel ''nai fab chwaer Arthur'' (''[[Brut Dingestow]]'').
 
Ceir cyfeiriadau at Hywel yn llyfr Sieffre (''Hoel'' yn y [[Lladin]] wreiddiol, 'Hywel' yn y fersiynau [[Cymraeg]]), yn y [[chwedl]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'', yn y [[Y Tair Rhamant|rhamantau]] ''[[Geraint fab Erbin]]'' a ''[[Peredur]]'', ac mewn sawl cerdd o waith y [[Gogynfeirdd]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]].
 
===FfynhonnellHoel===
Dan ei enw Lladin 'Hoel' cafodd Hywel fab Emyr Llydaw ei gysylltu â'r ferisynau diweddarach o chwedl [[Trystan ac Esyllt]] gan feirdd Ffrengig ac Eingl-Normanaidd fel [[Béroul]] a [[Thomas o Brydain]]. Yn eu gwaith portreadir Hywel/Hoel fel [[Dug Llydaw]] a thad [[Esyllt]] (''Iseult''), gwraig [[Trystan]] (''Tristan'' neu ''Tristram''). Mae Hoel yn lletya Trystan ar ôl iddo gael ei alltudo o deyrnas y brenin Mark ([[March ap Meirchion]]), ac yn ddiweddarach mae Trystan yn ei gynorthwyo ac yn syrthio mewn cariad ag ail Esyllt, merch Hoel, ac yn ei phriodi. Mewn fersiwn arall mae'n dychwelyd i Brydain i fyw â'i wraig gyntaf (ceir dau enw ar Esyllt yn y traddodiad Cymraeg, sydd efallai'n esbonio'r dryswch hyn); dyma'r fersiwn a ddilynir gan Syr [[Thomas Malory]] yn ei ''[[Le Morte d'Arthur]]''.
 
===Ffynonnellau===
*Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, argraffiad newydd 1991). Tud. 407-8.
*Sir Paul Harvey a J. E. Heseltine, ''The Oxford Companion to French Literature'' (Rhydychen, arg. new. 1969). d.g. 'Tristan and Isolde'.
 
[[Categori:Cylch Arthur]]