Wicipedia:Polisïau a chanllawiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Polisïau: Dw i heb ychwnegu'r biblell "|" ar lawer o'r dolennau am ddau reswm 1. I ni ddeall mai dolennau i Wici-cy ydy'r rhain ac 2. er mwyn i'r cychwynwr weld union gyfeiriad y ddolen.
Llinell 12:
2. '''Peidiwch ag amharu ar hawlfraint.''' Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau [[GNU Free Documentation License]]. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. Gweler [[Wicipedia:Hawlfraint]] am ragor o wybodaeth.
 
3. '''Gwyddoniadur yw Wicipedia.''' Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler [[Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia]]. Ceir polisi gennym hefyd ar [[Wicipedia:Amlygrwydd|Amlygrwydd]], sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl.
 
4. '''Parchwch ddefnyddwyr eraill.''' Mae'r rheiny sy'n cyfrannu at Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Mae hyn yn wir hefyd am y Wicipedia Cymraeg, gyda llawer o'r cyfrannwyr yn byw ledled y byd. Gallwn gydweithio'n effeithiol mewn modd [[Wicipedia:Cwrteisi|cwrtais]] i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Gweler y canllaw Saesneg: [[Wikipedia:Wikipetiquette|Moesau]]. Mae ein [[Wicipedia:Polisi preifatrwydd/newydd|Polisi preifatrwydd]] yn rhan anhepgor o barchu eraill.