Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Griffith Jones, Llanddowror"

Lleihawyd o 11 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
'''Griffith Jones''' (1683 – 1761), a adnabyddir gan amlaf fel '''Griffith Jones, Llanddowror''', oedd sylfaenydd yr [[Ysgolion Cylchynol Cymreig]].
 
Roedd yn frodor o [[Pen-boyr|Ben-Boyr]], [[Sir Gaerfyrddin]], a chafodd ei addysg yn [[Ysgol Ramadeg Caerfyrddin]] a'i ordeinio ym [[1708]]. Ym [[1716]] cafodd reithoriaeth ym mhentref [[Llanddowror]]. Bu'n aelod brwdfrydig o'r [[Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]].
 
Ym [[1731]] dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen i ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i fynychu'rw ysgolionmynychu. Dysgai'r ysgolysgolion blant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r [[Beibl 1588|Beibl Cymraeg]] a thrwy adrodd [[Catecism|Catecism Eglwys Loegr]]. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan [[Bridget Bevan]], merch y dyngarwr, [[John Vaughan]] (1633-1772), a thrwy ei'i chysylltiadau ariannog yn [[Llundain]] a [[Caerfaddon|Chaerfaddon]]. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, '''Welsh Piety''';<ref>{{cite book|author=Jones, Griffith (Griffith Jones, Llanddowror, 1683-1761)|title=Welsh Piety: or, a collection of the several accounts of the circulating Welch charity schools: from their first rise in the year of 1737, to Michaelmas, 1753: in several letters to a friend|publisher=Printed by J. Oliver|location= London|year=1753?|isbn=}}</ref>; ynddynt byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian.<ref>{{cite book|author=Davies, J.|title=Hanes Cymru|publisher=Penguin Books|location= London|year=1992|isbn=0-14-012570-1}}</ref> Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf [[llythrennedd|llythrennog]] y byd.
 
Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng [[Cymru|Nghymru]] cyn hynny ers [[diddymu'r mynachlogydd]].
11

golygiad