Cytundeb München: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Arwyddwyd '''Cytundeb München''' yn ninas [[München]] yn ne [[yr Almaen]] yn oriau cynnar [[30 Medi]] [[1938]] (ond wedi ei dyddio [[29 Medi]]), rhwng [[Adolf Hitler]], Canghellor yr Almaen a'i gyngrheiriad [[Benito Mussolini]], arweinydd [[yr Eidal]], a [[Neville Chamberlain]], prif weinidog [[y Deyrnas Unedig]] a [[Raymond Daladier]], prif weinidog [[Ffrainc]].
 
Roedd [[Hitler]] yn hawlio tiriogaeth y [[Sudetenland]], ardal lle roedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig, oddi ar [[Tsiecoslofacia]]. Gwrthwynebid hyn yn gryf gan lywodraeth Tsiecoslofacia, a datganodd yr [[Undeb Sofietaidd]] eu bod yn barod i roi cefnogaeth filwrol i'r Tsieciaid, ond dim ond os byddai Prydain a Ffrainc yn ymuno a hwy. Yng Nghynhadledd München, cytunodd prydainPrydain a Ffrainc i roi'r Sudetenland i Hitler, gan osgoi rhyfel am y tro.
 
Yn [[1939]], ymosododd Hitler ar [[Gwlad Pwyl|Wlad Pwyl]], a'r tro hwn cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain ryfel ar yr Almaen, gan ddechrau'r [[Ail Ryfel Byd]].