Sudetenland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
B teipo
Llinell 3:
Y '''Sudetenland''' ([[Tsieceg]] a [[Slofaceg]]: ''Sudety''; [[Pwyleg]]: ''Kraj Sudetów'') yw'r term a ddefnyddid cyn [[1918]], ac o [[1938]] hyd [[1945]], am ardal yng nghanolbarth Ewrop lle trigai mwyafrif o bobl Almaenig ei hiaith. Mae'r ardal yn awr yn rhan o [[Gweriniaeth Tsiec|Weriniaeth Tsiec]].
 
Daw'r enw o enw mynyddoedd y [[Sudeten]], er ei fod yn cynnwys aedalardal ehangach na'r mynyddoedd eu hunain. Y prif ddinasoedd yn yr ardal yw [[Cheb]] ''(Eger)'', [[Karlovy Vary]] ''(Karlsbad)'', Plzeň ''([[Pilsen]])'', [[České Budějovice]] ''(Budweis)'', Mariánské Lázně ''([[Marienbad]])'' a [[Liberec]] ''(Reichenberg)''.
 
Ar un adeg, roedd y Sudetenland yn perthyn i [[Awstria-Hwngari]]. Ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], daeth yr ardaloedd hyn yn eiddo [[Tsiecoslofacia]]. Pan ddaeth [[Adolf Hitler|Hitler]] i rym yn yr Almaen, dechreuodd annog trigolion Almaenig y Sudetenland i alw am gael dod yn rhan o'r Almaen. Datblygodd plaid Natsïaidd gref yno dan arweiniad [[Konrad Henlein]]. Meddiannwyd yr ardal gan Hitler, ac yn fuan wedyn yn [[1939]] meddiannodd weddill y wlad hefyd. Ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]], gorfodwyd tua 3 miliwn o Almaenwyr ethnig i adael y Sudetenland.