Emily Post: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Awdures Americanaidd oedd '''Emily Post''' (27 Hydref 1872 – 25 Medi 1960) a ysgrifennodd ar safon ymddygiad. Mae ei henw yn gyfystyr...'
 
rhaglen radio
Llinell 3:
Ganwyd Emily Price yn [[Baltimore, Maryland]], yn unig plentyn i'r pensaer Bruce Price a'r buddsoddwraig Josephine Lee Price. Ym 1877 symudodd ei theulu i [[Manhattan]] a mynychodd Emily [[ysgol breifat]]. Daeth y teulu yn rhan o [[cylchoedd uchaf cymdeithas|gylchoedd uchaf]] [[Dinas Efrog Newydd]], ac ymddangosodd Emily fel ''[[débutante]]'' ym 1892. Priododd y dyn busnes Edwin M. Post a chafodd ddau fab, Edwin Jr. (ganwyd 1893) a Bruce Price (1895). Ceisiodd y cylchgrawn clecs ''[[Town Topics]]'' [[blacmel|flacmelio]] Edwin am ei anffyddlondeb i'w wraig, ond gwrthododd dalu a thystiodd yn erbyn y cylchgrawn mewn achos enllib ym 1905. Danfonodd Emily ei feibion i [[ysgol breswyl]] cyn iddi ysgaru Edwin. Ni dderbyniodd Emily [[alimoni]] o'i gŵr gan iddo golli ei gyfoeth mewn buddsoddiadau aflwyddiannus, ac felly enillodd Emily arian trwy ysgrifennu. Cyhoeddwyd chwe nofel ganddi, straeon byrion, traethodau, a'r llyfr taith ''By Motor to the Golden Gate''.<ref name=Motor>{{cite book |title=By Motor to the Golden Gate |last=Post |first=Emily |chapter=Intoduction |year=2004 |publisher=McFarland & Company |editor-first=Jane |editor-last=Lancaster |location=Jefferson, Gogledd Carolina |isbn= |page=2 |url=http://books.google.co.uk/books?id=CX3qS6a-M5EC&pg=PA2&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false |accessdate=4 Tachwedd 2012 }}</ref>
 
Ysgrifennodd ''Etiquette in Society, in Business, and at Home'' a gyhoeddwyd gan [[Funk & Wagnalls]] ym 1922. Ni ddisgwylwyd y llyfr i fod yn llwyddiant sylweddol, ac argraffodd y cyhoeddwr 5000 o gopïau'n unig. Ond arhosodd ar restrau'r gwerthwyr gorau am 18 mis a chafodd ei ailargraffu o leiaf wyth o weithiau yn ystod y cyfnod hwnnw.<ref name=NewYorker/> Esbonir llwyddiant aruthrol y llyfr gan y miliynau o Americanwyr oedd yn blant i fewnfudwyr ac yn dymuno cael crap ar foesau a defodau eu gwlad enedigol, ac Americanwyr eraill oedd am [[mudoledd cymdeithasol|wella eu safle cymdeithasol]].<ref name=Motor/> Ysgrifennodd [[colofn (newyddiaduraeth)|golofn]] i'r cylchgrawn ''[[McCall's]]'' a gafodd ei chyhoeddi mewn mwy na 150 o bapurau newydd ar draws y wlad.,<ref name=Motor/> a chyflwynodd raglen radio.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.nytimes.com/learning/general/onthisday/bday/1003.html |teitl=Emily Post Is Dead Here at 86; Writer was Arbiter of Etiquette |gwaith=[[The New York Times]] |dyddiad=27 Medi 1960 |dyddiadcyrchiad=12 Mawrth 2013 }}</ref>
 
Sefydlodd The Emily Post Institute ym 1946, sy'n parhau i hyrwyddo safon ymddygiad yn yr Unol Daleithiau ac ailargraffu llyfrau Emily Post. Mae nifer o'i disgynyddion wedi dilyn camau Emily trwy ysgrifennu ar safon ymddygiad.