Beowulf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 63 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q48328 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Beowulf.firstpage.jpeg|250px|de|bawd|Tudalen gyntaf llawysgrif ''Beowulf'']]
Cerdd arwrol [[Hen Saesneg]] (neu [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsoneg]]) yw '''''Beowulf''''', sy'n 3182 llinell o ran hyd. Caiff y gerdd ei chyfrif fel y gerdd bwysicaf yn llenyddiaeth Eingl Sacsonaidd-Saesneg.
 
Mae'n dechrau trwy ddisgrifio cynhebrwng Scyld Scefing, un o arwyr mawr y Daniaid, cyn fynd ymlaen adrodd hanes yr arwr Beowulf yn ymladd yr anghenfil Grendel gan ei ladd,. maeMae mam Grendel wedyn yn ymosod arno ac mae Beowulf yn ei lladd hithau. Aiff adre'n arwrol ac yn fuddugoliaethus i Geatland yn [[Sweden]]. Ar ôl hanner can mlynedd, mae'n ymladd draig ac yn ei lladd ond caiff ei glwyfo'n angheuol wrth wneud hynny a chaiff ei gladdu gan ei gyfeillion yng ngolwg y môr.
 
Cedwir testun ''Beowulf'' mewn [[llawysgrif]] sy'n dyddio o tua dechrau'r 11eg ganrif, ond credir gan mwyafrif o feirniadau i'r gerdd gyrraedd ei ffurf bresennol rhywbryd cyn hynny. Dichon fod hyn yn ddiwedd proses o drosglwyddo ar lafar ond ni ellir gwybod hyn i sicrwydd.