Owain Tudur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
dienyddiad
ehangu fymryn
Llinell 2:
Milwr, gŵr llys, a phriod dirgel [[Catrin o Valois]], gweddw [[Harri V o Loegr]], oedd '''Owain Tudur''' (c. [[1400]] - [[2 Chwefror]], [[1461]]). Tadcu [[Harri VII o Loegr|Harri Tudur]] trwy ei fab [[Edmwnd Tudur]] oedd ef. O'i bedwar mab arall y pwysicaf fu [[Siasbar Tudur]], [[Iarll Penfro]] a Dug [[Bedford]], a ymgyrchai'n galed i gael Harri Tudur ar orsedd Lloegr. Yr oedd Owain Tudur yn yn o ddisgynyddion [[Ednyfed Fychan]], [[canghellor]] [[Llywelyn Fawr]]. Roedd yn perthyn i Duduriad [[Môn]] trwy ei dad Maredudd ap Tudur, brawd [[Rhys ap Tudur]] a [[Goronwy ap Tudur]] a ymynusant ag [[Owain Glyndŵr]] yn ei wrthryfel yn erbyn y [[Saeson]]. [[Penmynydd]] ar Ynys Môn oedd ystâd y teulu.
 
==Ei ddiwedd==
Dienyddiwyd ef wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yn 1461.
Dienyddiwyd ef yn [[Henffordd]] ar orchymyn [[Edward VI o Loegr|Edward]] [[Iarll y Mers]] wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yn [[1461]]. Yn ôl un croniclydd, nid oedd yn credu y byddai Edward mor ansifilriaidd â'i ddienyddio tan y gwelodd y blocyn pren yn barod iddo.
:'Yna dywedodd, "Y pen hwn a osodir ar y blocyn pren a orffwysai gynt yn arffed y frenhines Catrin", a chan gyflwyno ei feddwl a'i galon i Dduw, aeth yn llariaidd i'w dranc.'<ref>Dyfynnir yn David Fraser, ''Yr Amddiffynwyr'' (cyfieithiad Cymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Caerdydd, 1967), tud. 223.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
 
<references />
==Ffuglen==
*[[William Pritchard]], ''Owen Tudur'' (Caernarfon, 1913). Rhamant hanesyddol seiliedig ar draddodiadau lleol am Owain Tudur ar Ynys Môn.
 
==Llyfryddiaeth==
===Llyfrau hanes===
*W. Ambrose Bebb, ''Cyfnod y Tuduriaid'' (1939)
*H.T. Evans, ''Wales and the Wars of the Roses'' (1915)
===Ffuglen===
*[[William Pritchard]], ''Owen Tudur'' (Caernarfon, 1913). Rhamant hanesyddol seiliedig ar draddodiadau lleol am Owain Tudur ar Ynys Môn.
 
{{eginyn}}